HUNO.

Yn hytrach na'r gair "marw," yn ei berthynas ag ymadawiad rhai tebyg i'r diweddar Mr. William Pritchard, Hendre Bach, mwy priodol yw "huno." Ac efe ym 76 mlwydd o'i oedran, y 3ydd dydd o'r mis hwn, dyna wnaeth y gwladwr hynaws uchod. Gan nifer o berthynasau a chyfeillion y teulu, dygid ei ddyn oddiallan i Gapel Helyg, yr 8fed dilynol, pryd y gwasanaethai y Parch. T. Williams. Gedy'r ymadawedig weddw a chwech o blant yn eu galar, eu colled a'u hiraeth.

Mab Tyddyn Uchaf oedd W. Pritchard. Brawd iddo ef yw Mr. Rhys T. Pritchard, swyddog elusenol, a chwaer iddo yw'r gantores, Mair y Tyddyn.

Dyn tawel, dirodres, a diddan, oedd ein gwrthrych. Fel pob gwir gymeriad, casai bob ffurf ar falchder mewn, hunan-arddanghosiad a gwag ymffrost. Yr oedd yn ddyn o synwyr cryf, pwyllog, ac amyneddgar. Meddai hefyd, argyhoeddiadau moesol dyfnion; ac yn gyson a hyny, yn arbenig yn y cylch crefyddol. casai a chas cyflawn yr ysgafnder a'r rhagrith sy'n rhy amlwg yn, y cylch hwnw. Caledfryn ddywed am Robert Ab Gwilym Ddu, mewn perthynas ag aelodaeth eglwysig—os nad oedd wedi ei fedyddio a dwfr, fel arwydd allanol, fod ei waith a'i fywyd yn profi yn eglur iddo gael ei fedyddio a'r Ysbryd Glan. Gyda phriodoldeb gellir dweyd yr un peth am W. Pritchard. Y gwirionedd, fel y corfforir ef ym mywyd a dysgeidiaeth yr Arglwydd Iesu ac nid diwinyddiaeth, nac unrhyw ffurf ar ddamcaniaeth ddynol, oedd ei safon ef o fywyd. O ran galluoedd meddwl, gallasai fod yn grefyddwr amlwg, ond nid gwell. Nid oedd yn un o'r rhai hyny y gellid amau y cymhellydd. Ac os bu'n athraw o'r Ysgol Sul, a derbyn ohono anrheg o spectol aur, sicr ydym na theimlai neb fwy o anheilyngdod nag efe.

Pan yn mesur bywyd, fel rheol, anghofiwn yr hyn sydd o'r golwg ohono, sef y rhan bwysicaf. Rhoddwn fwy o bwys hefyd ar ei ffurf nag ar ei arsawdd a'i gyfanrwydd. A thra'n edrych ar fywyd o'r safle arwynebol hon, ofnwn nas gallwn adnabod na gwerthfawrogi'n ddyladwy gy meriadau fel W. Pritchard. Cymeriadau cedyrn, union a gonest. Pe gofynid i ni beth oedd rhai o'i nodweddion amlycaf, dywedem ei sirioldeb diddan a'i gydwybodorwydd diwyrni, Ac o golli un fel efe, mae Pencoed a'r fro yn dlotach nag y mae'n bosibl iddynt sylweddoli hyny yn uniongyrchol.

Addfwyn ddyn diddan oedd ef,—glain ei foes,
A'i galon, fab tangnef;
Didrwst y troediai adref,
A'i enw ar Lyfr y Nef.

Yr Herald Gymraeg 14/03/1916