MR. WILLIAM JONES, CAE-FFRIDD LLANDWROG, GYNT TY'NRHOS, LLANGYBI, EIFIONYDD.
Gyda sydynrwydd syfrdanol y pellebebrwyd am farwolaeth Mr. William Jones fore Llun, wythnos i'r diweddaf. Awd i Cae-ffridd yn ddi-ymdroi i gael fod y newydd yn rhy wir.Yn ôl yr hanes tarawyd ef yn sal y prynawn Sadwrn cynt gan y llid. Gyrwyd am y doctor. Y Sul tybid ei fod yn well, a nos Sul eisteddai Mr. Morris, rector Llandwrog, wrth erchwyn ei wely yn falch o'i weled, i ymddangosiad allanol, yn well, ond rhwng dau a thri y bore yr oedd y dyn mawr a chryf wedi ei dori i lawr, a thrist iawn ydoedd ei weled yng nghyflawnder ei nerth a'i faintioli yn gorwedd mor llonydd ac mor fud.
Nid oedd ond mis union er pan y sefydlodd ef a'i deulu bychan yn Cae-ffridd, a'i droed megis ar drothwy bywyd.
Creodd y newydd trist fraw a galar yn ei hen ardal - Llangybi a LIanarmon - lle y bu fyw am flynyddoedd gyda'i frodyr yn Ty'nrhos. Gyda phob gwaith da, yr oedd bob amser yn siriol ac addfwyn. Ar ei ymadawiad oddiyma teimlid fod bylchau ar ei ôl - yn yr Eglwys ar y SuI, yn yr Ysgol Sul, yn y gwasanaethau wythnosol, ac yn y cyfafodydd diwylliadol, ac yn enwedig gyda darllen y llithiau yn Llanarmon, ac ar achlysuron yn Llangybi, yr hyn a wnai yn rheolaidd yn ei dro. Hir y cofir am dano yn ddyn cadarn, cryf, ac yn bictiwr o iechyd, yn sefyll wrth y lectern, a chyda llais mwyn yn darllen y Gair, ac wedyn yn byw y Gair.
Teithiodd gryn dipyn o'r byd yn ei ddydd, ond er's amryw flynyddoedd bellach yr oedd wedi sefydlu gyda'i frodyr, fel y dywedwyd, yn Ty'n rhos.
Y flwyddyn ddiweddaf priododd ferch hynaf Mr. a Mrs. Henry Jones, Ty-hwnt-i'r-mynydd, a rhyw chwech wythnos yn ôl symudodd i ffarm daclus a chyfleus ar ystad Glynllifon yn Llandwrog. Yn ei ardal newydd edrychid ymlaen at ddyn a theulu defnyddiol mewn byd ac eglwys. Fel y mae yr hen air yn cael ei wiro!
"Meddwl pethau gwych i ddyfod,
Croes i hyny maent yn dod."
Dyn tawel, siriol, cymwynasgar ydoedd, ac yn hoff gan bawb a'i hadwaenai. Ei ddymuniad olaf oedd cael ei gladdu yn Llanarmon, ac yno yn yr ardd a neillduwyd at y fynwent y torwyd ei fedd, ac yno y gorphwysa o fewn ychydig latheni i'r fan yr arferai addoli ar y Sul, ac i'r fan y safai ei draed i ddarllen y llithiau yn y moddion. Dydd Gwener, y 27ain o'r un mis, cychwynwyd y cynhebrwng o Cae-ffridd gan y Parch. H. Morris, rector, a phan y cyrhaeddodd Llanarmon yr oedd tyrfa luosog o'i gyfeillion a'i gydnabyddion yn ei ddisgwyl. Dygwyd ef i'r Eglwys ar ysgwyddau pedwar ffrind, a chymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan weinidogion y plwyf a Mr. Morris.
Y nos Sul dilynol cynhaliwyd gwasanaeth coffadwriaethol iddo yng ngwydd cynulleidfa luosog. Ar y terfyn chwareuwyd y 'Dead March.' Mwyach nid yw mwy, ond y mae yr adgof o hono yn aros, a'i goffadwriaeth yn felus.
- Goheb.