JOHN HUGHES, PENYGONGOL. 1846-1919.
Yn gyson ag arbenigrwydd ein harwyr, caniateir ni ein rhyddid ynglyn a ffurf y pennawd. Er nad adwaenid John Hughes, gan lawer o'r tu allan i Langybi a'r fro, yr oedd ynddo rai elfennau sy'n gwneud dyn yn fwy na lle,—er fod dyn felly, fel y cyfryw. Nid barn y cyhoedd na'r "dyrfa" sy'n gwneud mab yn enwog. John Hughes ydoedd werinwr o ran ysbryd a moddion!O ran cyff, yr oedd yn berthynas agos a'r diweddar Barchedig ,Ceidiog Roberts, Llanllynfi; a Mr. William Jones, dilledydd, Fourcrosses, ger Pwllheli, gyda'r hwn y decbreuodd ei yrfa fel Gwr y Nodwydd. Yn ddiweddarach, cawn ef yn y cymeriad o gariwr a siopwr bychan, efe a'i wraig, ''Jane," fel y galwai hi. Ond rywfodd, ni chafodd ryw lawer o "hwyl" ar y cario na'r "siopio."
Gwelodd "dorri'r olwyn wrth y pydew," fwy nag unwaith, ar yrfa bywyd, eithr daliai lamp ei ffydd yn oleu a siriol ar bwys cydymdeimlad bro, a'i natur dda yntau. A'r "olwyn" wedi ei "thrwsio," eto yntau eilwaith i'w ffordd, a gwen ar ei rudd ac yr oedd y wen honno'n ddigon o dâl i'r cymwynaswr, yr hwn nad edifarhau, am i hynny fod yn fymryn o gymorth a'r hen gariwr i gyrraedd cartre'r sant, ychydig yn esmwythach. Fel gair o atgof bore oes, am ein harwr, dywedwn. mai rhai o'r enwau cyntaf y daethom yn gyfarwydd a hwy ydoedd "Llangybi," a "John Hughes, Penygongol." Nid ydym yn cofio'r naill ar wahan i'r llall. le, ebe rhywun, gan eich bod yn rhoddi cymaint o arbenigrwyrdd ar John Hughes, ac yntau'n ddyn tlawd, ac heb fawr dalent, dysg. na diwylliant,—beth bynnag am "enw da,"—sut un oedd o o ran person?
Wel, dyn lled fyr, corphol, cyd-nerth, gyda phen mwy na'r cyffredin. Ac ar gyfrif yr anghymesurid rhwng y pen a'r croph, i'r sylwgar, yr oedd yn wrthddrych o ddiddordeb. Ac, ond odid, os gwelodd yr edrychydd ddarlun o Plato neu Gurnos, gyda'r en hir, a'r talcen trwm na ddywedodd, "y fath debygrwydd!" Felly, o'i ysgwyddau i lawr. John Hughes oedd Gerdd; ac o'i ysgwyddau i fyny, John Hughes oedd Gelt, a direidi'r Gwyddel yn chwarae yn ogofau pell ei lygaid gloewlas. Dyna'r dyn oddiallan. Hawdd tybied fod John Hughes, o ran posibilrwydd, John Hughes mwy—beth bynnag am well,—nag a gawsom.
I'r graddau y datblygodd ei alluoedd naturiol, yr oedd ynddo graffter i ddeall a hyfforddi creaduriaid. Anaml y gwelid John Hughes, heb gi wrth ei sawdl! Mewn cylch uwch, yr oedd yn gofiwr gafaelgar, ac yn ddynwaredwr ysmala. Nid oedd yn ddarllenwr eang, ond darllenai'n feddylgar.
O ran moes a bywyd, camp John Hughes ydoedd ei fod o "ysbryd rhagorol, yr hyn sy'n rhoddi graen a gwerth ar gymeriad. Adgofia hyn ni am wedd amlwg a diddorol ar y dyn a'r crefyddwr fel athro Ysgol Sul. Un o'r pethau cyntaf a gofiwn ydoedd ein gwaith yn mynd i'r Eglwys, i'r Ysgol Sul. Cofiwn hefyd mai John Hughes oedd yr athro; a. chyda hynny, cofiwn am ddau anhebgor athro ynddo, nid amgen, amynedd, a'r "fferins" tra derbyniol roddai i bob un, er ystwytho'r peiriannau llafar, i ddweyd yr A.B.C. Yr oedd John Hughes yn athro galluog a da, yn ei ffordd, am fod ei galon yn y gwaith. A dyna angen mawr yr Ysgol Sul heddyw, sef calon. A chyda phen a chalon, daw'r Ysgol Sul yn allu dyrchafol eto.
Yr oedd John Hughes hefyd, yn glochydd, nid fel swyddog yn unig, eithr fel Cristion. Ystyriai ganu'r gloch yn weithred foesol, ac yn rhan o'r addoliad dwyfol. Yr oedd y gloch a'i fywyd yntau, mewn perffaith gynghanedd a'u gilydd. Ac os bu enwogion yn yr un gorohwyl, megis Bardd Nantglyn, a'r ben Garolwr nefolaidd o Lanllyfni, ni rad iddo yntau ostwng pen, am iddo roddi bri ar beth uwch, hyd yn oed nag athrylith, sef bywyd disglaer.
Ac fel gŵr meddylgar a boneddigaidd ei ysbryd, yr oedd yn Eglwyswr llydan, a chanddo barch dwfn i hynafiaeth a threfn Efengylaidd, yr hon a ystyriai megis brenhines Gristionogol; yr hon hefyd a wyr dywylled yr hirnos y daeth trwyddi, a lliosoced y gelynion a goncrodd, heb syrthio o'i choron, er na honna berffeithrwydd. Ac fel Cristion mawrfrydig, edrychai John Hughes ar y lleiaf yngoleuni'r mwyaf. Fel y peirianydd yn edrych ar y rhannau yngoleuni'r cyfanwaith, felly'r edrychal John Hughes a'r "ddefod ac arfer," o safle oyfanrwydd ac arucheledd gwir addoliad. Collai olwg, megis, ar y moddiant yn goleuni'r diben gogoneddus. A hyd eithai ei allu, bu'n "ffyddlon yn yr holl dy, megis gwas." A phryd y bernir dyn yngoleuni'r amgylchiadiau, yn hytrach nag wrth ei gymeriad, priodol yw dweyd amdano yntau, "Nad oedd y byd yn deilwng ohono." Ac o egwyddor a bywyd, tybiwn glywed y Meistr Addfwyn yn ei gyfarch, "Da was, da a ffyddlon, etc."
Ac heddyw, gwelwn yn well, hardded, corfforiad ydoedd o'r "gloch," a'i chenadwri yn ei fywyd dengar a ohyson. Ac yn ei dawelwch a'i sirioldeb, brydferthed y corfforodd y "Iamp" a oleuodd yn y deml am tros ddeugain mlynedd. Ac erys dylanwad tirion y naill a'r llall yn hir yn dystion i'r bywyd glan, ac yn arweinwyr eraill i'r un ffordd, yr hon sy'n arwain i'r bywyd y mae John Hughes yn feddianaiol arno yn y cymeriad o frenin. Yr ysgrifenydd sanctaidd a ddywed, "Cleddwch y marw allan o'm golwg." Rhyfedd gymaint yw dyanwad traddodiad ac arfer arnom ynglyn a'r "marw," onide? Sia radwn am gladdu, fel pe byddai yn claddu'r person yn yr oll ohono; ond teimlid pan yn danfon gweddillion "Gwr Duw," i'w huneil olaf, ym mynwent y plwyf, fod yn awyrgylch mor ysbrydol, fel mai ychydig deimlem oedd yn cael ei "gladdu." Hefyd, yr oedd rhyw gydnawsedd syml rhwng bywyd syml ein brawd, a symledd aruchel y gwasanaeth, yr hwn sydd yr un i'r brenin a'r cardotyn, nes teimlem yn adnewyddol ei ragoriaeth, ar bob gwasanaeth arall.
Teimlem hefyd, fod dull gweddus ac urddasol yr oll, y wers fwyaf grymus gawsom erioed ar undeb ysbryd, fei sylfaen cydraddoldeb Cristionogol. A thros fedd y Cristion hygar, dychmygem weled yr enwau gwahanol yn ymgolli yn yr Enw Mawr a'r "Corph drylliedig," yn dod yn gyfan a chariadus, yn "rhwymym tangnefedd, ac uniondeb buchedd," y rhai sy'n eu henwi eu bunain ar enw Crist.
Gweinyddwyd yn dyner gan y Parchn. J. Davies B.A. (Isfryn) y Rheithor W. Parry, a R. Davies.
Mynwes brudd, a mwynwas bro—yn nhaw arch
John Hughes geir, ac wylo;
Tra'r gloch yn fud uwchi ei grud gro,
A'i Eglwys hardd: mewn gloes erddo.
CYBI.