MARW DISYFYD.

Brydnawn Iau, oddiwrth effaith ergyd o'r parlys, yn sydyn, bu farw Mr. William John Pritchard, y Llythyrdy, Bryn Gwalia, o'r lle uchod.

Yr oedd gyda'i orchwylion yn y boreu, ac yn siriolach nag arfer. Er hyny, nid oedd yn gryf ei iechyd ers blynyddau. Nid oedd ond cymharol ddyn yn ei fan, fel y dywedwn, sef 66ain, namyn un dydd.

Yr oedd yn frawd i'r diweddar Mr. David Pritchard, Llanfair, Môn, yr ysgolfeistr, ac i Gaerwenydd, y bardd a'r eisteddfodwr. Yr oedd yntau yn ddyn o gynheddfau meddwl crvfach na'r cyffredin; yn ddarllenwr eang a meddylgar, ac o syniadau annibynol, yr hyn oedd yn naturiol i un o wybodaeth ymarferol, lled gyflawn, fel yr eiddo ef. O ran ei ysbryd a'i gymeriad moesol, yr oedd yr un mor eang. Yr oedd yn fwy na phlaid neu sect, ac ni chawsai ffug neu ragrith cymdeithasol neu grefyddol, gymylu mymryn ar y gwirionedd am ddyn a Duw, er y gallai hyny greu rhagfarn yn y meddwl arwynebol, yr hwn sy'n caru'r cysgod yn fwy na'r sylwedd. Ond er ei fod yn eang fel Rhyddfrydwr gwleidyddol, a chrefyddwr ymarferol, yr oedd uwchlaw y rhyddfeddyliwr. Iesu o Nazareth oedd ei athraw, yn gystal a'i Waredwr moesol, a'i Frenin ysbrydol.

Cydymdeimlir yn gyffredin a'r weddw, y plant, a'r teulu lluosog o tan y cwmwl tywyll. Ceir hanes yr angladd yr wythnos nesaf.

Yr Udgorn 24/02/1915


ANGLADD.

Dydd Llun, yng Nghapel Helyg, daearwyd llwch y diweddar Mr. W. J. Pritchard, y Llythyrdy. Gweinyddwyd gan y Parchn. J. Davies, B.A., (Isfryn), a T. Williams, Capel Helyg. Yn ôl dymuniad ein cyfaill, angladd o nifer o berthynsau a chyfeillion ydoedd. Mri. Robert J. Pritchard. David Pritchard, William H. Pritchard, Private H. J. Prichard (meibion), Mrs. Capt. Thomas, Misses Annie Pritchard, Maggie Pritchard (merched), Capt. R. Thomas (mab-yng-nghyfraith), Miss Blodwen Pritchard (nith), Llanfair P.G.; Mr. D. W. Humphreys (cefnder), Carmel; Mr..D. O. Williams (nai), Rhyl; Mri. J. Jones, Tuhwnt-i'r-Mynydd; R. I Jones, Llanarmon; H. Jones, ac R. Jones, Criccieth; J. H. Davies, Cae'r Tyddyn; J. Evans, a H. Evans, Gwrnallt; D. Evans, y Siop; W. Williams, Ty'n y Porth; W. J. Williams, Cefn Coch; O. Hughes, y Pentref; R Jones, Glan y Gors; E. Williams, Fferm Capel Helyg; H. Jones, Tyddyn Llan; D. J Jones, Bryn LIefrith; J. Pierce, Pencae Newydd; R. Evans, Bryn Eithin; Parchn. S F. Davies, Trefor, ac R. Davies, Llangybi.

Derbyniodd y weddw a'r teulu lu o lythyrau oddiwrth berthynasau a chyfeillion vn cydymdeimlo a hwy, ac yn ymofidio oherwydd eu hanallu i fod yn yr angladd. Am y cyfryw dymuna'r teulu ddiolch i'r oll. Chwith meddwl am ei symudiad sydyn, heb gael o'i anwyliaid gymaint a dweyd "ffarwel," ac yn wvneb hyny, anodd yw sylweddoli'n llawn fawredd y cyfnewidiad. Ond fel ceir cyfle amser ac amgylchiadau, daw, nid yn unig y cylch teuluol i deimlo hyny'n fwy, ond y cylch cymdeithasol hefyd.

Fel dyn o wybodaeth a barn uwch na'r cyffredin, ynghydag ysbryd caredig, nid ychydig fanteisiodd ar hyny mewn materion dyrys. Ar gyfrif y craffder ewyllysgar a di-hunan hwnw, dichon na chafodd y sylw na'r lle a haeddai yn mywyd cymdeithas. Gallai fod a fynno hyny rywbeth a'i unionder a'i ddull gonest yn dweyd ei farn; ond safai dros wirionedd a credai yn ffyddlon, ac yr oedd ganddo fwy o hawl i hyny na llawr mwy ymhongar, ond llai eu gwybodaeth nag ef. Casai bob culni a gwagdwyll; yn arbenig ffug-grefyddolder. Gwyddai'r gwahaniaeth yn dda rhwng diwinyddiaeth a gwirionedd, rhwng credo a bywyd, a rhwng crefydd yn ôl duwioldeb a rhywbeth arall. Nid oedd neb lawenychai'n fwy nag ef wrth weled olion paganiaeth yn ymgolli yn nysgeidiaeth syml Mab y Saer, am fywyd. Yr oedd ei chwaeth naturiol, lenyddol a moesol, yn uchel a phur. Y syml oedd delfryd mawr ei fywyd.

Yr oedd ganddo barch neillduol i rai o arferion syml hen Eglwys y Cymry; megis y dull o gladdu; fel yr hyn sy'n amddiffyn doethineb a gweddusder, gan nad pwy fyddont, gwreng neu fonedd, dysgedig neu anysgedig, crefyddol neu anghrefyddol, etc. Ac nid gormod peth gan y cul a'r anoeth, fanteisio ar yr amgylchiad er curo'r byw ag esgyrn y marw. Anodd yw synio maint y golled i ardal golli cymeriadau union a gonest fel ein cyfaill; cymeriadau digon mawr i fod yn syml, a digon Cristionogol i fod yn ddynion a gwyr bonheddig. Gan hyny, prif wers ei fywyd ydoedd fod dyn i fod yn fwy a gwell na'i amgylchoedd, cyn y gall fod yn ffyddlon iddynt, iddo ei hun, ac i gymdeithas.

Yn dawel daeth y diwedd,—heb air byrr,
Heb wen, mewn tangnefedd;
Ei "ffarwel" oedd taweledd
Ei Dduw ar obenydd Hedd.

Yr Herald Gymraeg 09/03/1915