I'R MÔR.

Mae Llangybi, yn ddiweddar, wedi mynd yn lle enwog am ei forwyr. Y diweddaf aeth i'r mor oddiyma yw Mr. David LI. Hughes, yr Efail.

Diau y bydd yr ardal amaethyddol hon yn teimlo colled nid bychan am grefftwr medrus ynddo fel gôf, ac ar yr un pryd, yn dymuno ei lwydd mewn safle all fod yn fwy manteisiol i'w iechyd ac i'w bosibilrwydd fel crefftwr, sef peirianydd ar un o longau mwyaf cwmni o Aberystwyth, yr 'Harvonian.'

Dymunwn iddo "wynt teg" ymhob modd.

Yr Herald Gymraeg 13/10/1914


ENW DA.

Clywir, weithiau newydd calonogol, am ein meilbion sy'n marchog y dyfroedd peryglus, y dyddiau hyn.

Hyfrydwch genym ddeall am lwydd ac enw da ein cymrawd, Mr. D. Lloyd Hughes, yr Efail, gynt, Chwilog yn awr.

Dilyn ef y gorchwyl o beirianydd Llong. Ymddengys y bydd am ysbaid yn teithio o Efrog Newydd i'r Eidal.

Na ddoed y Caiser ar draws neb o fechgyn Llangybi, beth bynag na'r un Llan arall chwaith, y cenaw diffaith iddo.

Herald Gymraeg 25/05/1915