PRIODAS.

Tom Williams. Tyddyn Llan, Llanarmon a Miss Kate Evans, Siop Tynllan, sy' ŵr a gwraig bellach wedi'r uniad priodasol yng Nghapel Helyg, y dydd Gwener bythgofiadwy hwnnw yn eu hanes.

Y Parch H, T. Williams yn gweinyddu'r ddefod, a rhoddwyd sel cyfraith gwlad arni gan yr adnabyddus Rees T. Pritchard, Chwilog, cofrestrydd.

Yr oedd y briodferch yn cael ei chyflwyno gan Mr G. Evans ei brawd. Y gwas ydoedd Mr. William Williams. Tyddyn. brawd y priodfab a'r forwyn. Miss Ellen Williams, chwaer y briodferch. Yr oedd Misses Leah Jones Evans, chwiorydd y briodferch, yn mhlith y llu gwahoddedigion.

Yr Herald Gymraeg 13/05/1919