MEDDWI.

Cyhuddwyd Richard Thomas, Talafon, Dinas, o fod yn feddw ddwy waith tra yn gofalu am gerbyd a cheffyl.

Rhoddwyd tystiolaethau gan yr Heddwas Roberts a'r Rhingyll Lloyd.

Dywedodd y diffynydd iddo alw am feddyg pan yn y ddalfa er mwyn profi nad oedd yn feddw. Ond gwadodd yr Arolygydd Owen iddo wneyd hyny.

Dywedodd y cyhuddedig mai ychydig iawn o ddiod droai yn ei ben byth er pan y bu efe yn Ne Affrica. Cyrnol Lloyd Evans (y Cadeirydd) : Mwyaf yn y byd y dylech chwi beidio yfed.

Y diffynydd addawodd nad elai efe byth i dafarn mwy Cafodd fyned allan ar brawf ar daliad y costau.

Genedl Gymreig 31/03/1914


YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd ddydd Mercher. Ar y fainc yr oedd, Mri Maurice Jones. G. Hughes Parry, W. W Griffiths. (Dr. Gwenogfryn Evans a Mr G. Cornelius Roberts.

MEDDW GYDA CHEFFYL A CHERBYD.

Cyhuddwyd Richard Thomas, Talafon Shop Dinas, o fod yn feddw tra yn gofalu am geffyl a cherbyd ar ddydd Mercher ym Mhwllheli.

Ymddangosai Mr E. R. Davies dros y diffynydd a gwadai y cyhuddiad.

Tystiodd y Rhingyll Lloyd a'r Heddweision Jones a Thomas eu bod wedi gweled y diffynydd gyda cherbyd a cheffyl a'i fod yn rhy feddw i gymeryd gofal o'r cerlbyd. Bu iddynt ei erchi i fyned a'r cerbyd i ystabl Mr Denman yn y Maes, gan ei wahardd i fynd ag ef adref.

Dywedodd Mr. E. R. Davies fod y diffynydd wedi rhoddi y ceffyl yn y cerbyd ac wedi gwneud llawer o negesau yn y dref ac ar gais y plismyn fe aeth a'r ceffyl i'r ystabl trwy le anhawdd iawn. Yr oedd bob amser yn ddyn siaradus a hyawdl, ac yr oedd yn hawdd camgymryd hyn am ddylanwad y ddiod. Daeth i'w swyddfa ef ar ôl gweled y plismyn, ac yr oedd yn sobr ac yn siarad yn synwyrol ac anogodd ef geisio rhywun i fyned a'r cerbyd adref gan fod yr heddlu yn gwahardd iddo fyned ei hunan.

Tystiodd y diffynydd ei fod yn sobr ac nad oedd wedi cael ond dau lasiad y diwrnod hwnw. Tystiwyd hefyd gan Mri Meth. Griffiths, Tower Hotel, a T. Denman, Pwllheli, fod y diffynydd yn sobr ac yn abl i gymeryd gofal o'r cerbyd.

Dirwywyd ef i 5s 6c yn cynwys y costau.

Yr Herald Gymraeg 14/03/1916


YR YNADLYS.

Cynhaliwyd dydd Mercher, gerbron Mri Maurice Jones, C. H Lloyd Edwards, Lieut Col. Gough, William Thomas, Dr. Gwenogfryn Eyans, G. Cornelius Roberts, J G. Jones, a J. Hughes Parry.

HELYNTION Y DDIOD.

Cyhuddwyd Richard Thomas, Talafon, Shop Dinas, o fod yn feddw tra yn gofalu am ddau geffyl a lorry.

Tystiai Rhingyll Lloyd iddo weled y diffynydd yn feddw iawn yn gyru y ddau geffyl.

Mr J. G. Jones : A oes rhywbeth y mater ar ymenydd y dyn yma ?

Yr Arolygydd Owen : Nid wyf yn meddwl hyny, ond y mae rhyw ddiffyg yn ei wddf (chwerthin).

Dirwywyd ef i 1p.

Yr Udgorn 20/06/1917