LLANIESTYN (LLEYN).

Dydd Llun, talwyd y gymwynat olaf i'r diweddar Mr. Evan Williams, Erw, trwy hebrwng yn barchus, gan dorf luosog, ei weddillion marwol i dŷ ei hir gartref, i orphwys ymhlith ei deulu yn mynwent hen EgIwys y plwyf uchod, lle mae llawer ag a fu yn trafferthu gyda ni yn huno yn dawel hyd yr udgorn mawr diweddaf, ac efe yn 70 mlwydd oed. Dioddefodd gystudd maith a chaled.

Gwasanaethwyd yn y tŷ, yn yr Eglwys, ac ar lan y bedd gan ein parchus reithor, y Parch. J. Davies. Yr oedd wedi cael byw i weled ei blant yn alluog i ateb drostynt eu hunain mewn gwahanol oruchwylion.

Bydded i Dduw fod yn Dad i'r amddifad, ac yn Farnwr y gweddwon. Mae Efe yn cysuro y rhai galarus, ac yn gymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder. Peidiwn tristau fel rhai heb obaith am y rhai a hunant ynddo Ef. Y mae Duw yn sychu dagrau ei blant a thywel el gariad; ymostyngwn dan alluog law Duw. 'Yr Arglwydd a roddodd, a'r Arglwydd a gymerodd ymaith, bendigedig fyddo enw yr Arglwydd.'

Y mae un o'i feibion, sef Wiliiam Williams, yn Eglwyswr selog, ac yn mynychu yr Eglwys uchod er pan wedi ymadael o Llanfair, Harlech, lle y bu mewn gwasanaeth gyda'r Parch. Jenkin Davies. - R.J.

Y Llan 07/03/1913