HIRHOEDLEDD.
Ddydd Sul bu farw yr hen wr anwyl a hysbys Mr William Parry, Saddler. ac efe yn 87 mlwydd oed. Bu yn gwasanaethu ar etifeddiaeth Madryn a Nanhoron am flynyddau lawer.Yr oedd yn Gristion gloew, ac yn gymeriad a hoffid gan bawb. Cymerai ddyddordeb neillduol mewn cerddoriaeth, ac efe oedd arweinydd y gân yn Nghapel Dinas.
Heddwch i lwch y gweithiwr gonest.