DINAS LLEYN YN GANT OED.

Yr wythnos ddiweddaf, bu farw hen chwaer, Mrs Mary Hughes (Factory, Nanhoron gynt) ond yn awr yn trigo gyda'i merch yn Tyn Bwlcyn wedi cyrraedd ohoni can mlwydd oed er mis Mawrth diweddaf.

Mab iddi hi ydyw Mr. George Sennar, Factory, Nanhoron, ac wyr iddi hi oedd y cyntaf o fechgyn Lleyn i gwympo yn y rhyfel, sef Pte Robert Sennar.

Bu'r angladd anghyhoedd yn mynwent Eglwys Llaniestyn, ddydd Sadwrn.

Yr Herald Gymraeg 06/08/1918