LLANIESTYN.

Y Sul nesaf, yr ydym yn edrych ymlaen gyda llawenydd a hyfrydwch am ddyfodiad y brawd ieuanc, Mr. D. Evans, Belle Vue, i esgyn i bwlpud yr hen eglwys uchod, o'r hon y cafodd ei fagu, a sugno o laeth y Gair.

Dyma y tro cyntaf i ni gael y fraint o'i glywed yn pregethu yn yr eglwys hon, er ei fod wrth y gwaith yn Llangybi a Llanarmon, ac yr ydym ninau am gael cyfleustra o'i glywed cyn iddo fyned i Goleg Dewi Sant yr wythnos nesaf. Gobeithiaf y cawn fywyd ac iechyd, bob un o honom, i'w glywed; a gweddiwn am nerth iddo ef a ninau, ac ar iddo Ef anfon i lawr wlith Ei nefol fendith, fel y bo Gair Duw yn cynyddu yn ein plith.

Awn rhagom at berffeithrwydd.

Y Llan 10/10/1913


Marwolaeth a Chladdedigaeth E D Evans B A.

Dydd Nadolig tarawyd y plwyf a'r ardal hon a syndod a thristwch mawr pan gyrhaeddodd y newydd torcalonus o dref Fflint am farwolaeth y brawd ieuanc siriol a hawddgar, Mr, Evan David Evans, B.A., unig fab y diweddar Mr. a Mrs. Evans, Belle Vue, Llaniestyn, a chyn ysgolfeistr ac ysgolfeistres Llaniestyn.

Ymadawodd y brawd ieuanc a'r fuchedd hon nawn Sul, Rhagfyr 24ain, ar ôl ond byr gystudd.

Yr oedd iddo ddyfodol disglaer, yr oedd wedi bod yn llwyddianus iawn yn ei addysg, wedi graddio yn B.A. yn ieuanc ac wedi myned trwy yr arholiad Esgobaethol, yn barod i'w ordeinio, ond ei fod ychydig yn rhy ieuanc i'w ordeinio. Er hyny yr oedd wedi bod yn llwyddianus yn sicrhau lle fel curad yn nhref Fflint, ac wedi gwasanaethu yno am ychydig Suliau, hyd nes y torwyd ef i lawr. 'Ei haul a fachludodd tra yr ydoedd hi yn ddydd.' Bu yn gwasanaethu hefyd fel darllenwr lleyg mewn gwahanol fanau yn ystod ei oes fer, ond yn llawn gwaith ac egni. Yr oedd yn ddarllenwr ac yn bregethwr da. Yn ystod yr haf diweddaf bu yn gwasanaethu o dan y Parch. H. R. Roberts, rheithor Llanengan, yn Eglwys Genhadol St. John, Abersoch, ac yr oedd iddo air da yno fel un ag oedd yn traddodi cenadwri y gwirionedd, fel y mae yn yr Iesu. Bu hefyd yn gwasanaethu o dan y Parch. J. Davies (Isfryn), Llanarmon, yn Llangybi, am yspaid, a bu rai gweithiau yn Eglwys Bottwnog, ac yr wyf yn meddwl hefyd yn Eglwys ewythr ei briod, y Parch. R. J. Jones,, rheithor Crunwere, Whitland.

Heblaw y pregethau a fyddai yn draddodi pan yn y coleg yn Llanbedr, darllenodd lawer ar y llithoedd hefyd yn yr hen Fam Eglwys a'i magodd. Cofus iawn genyf am ei ffyddlondeb ef a'i anwyl fam ni bu dau erioed ffyddlonach. Hynod am eu tawelwch, ac yn hoffi y lân breswylfan. Ond erbyn heddyw eu lle ni edwyn ddim ohonynt hwy. Er hyny, er wedi marw mae ef yn llefaru eto, a'i weithredoedd yn ei ganlyn.

Dydd Mercher, Rhagfyr 29ain, cludwyd yr hyn oedd farwol o hono gyda modur o dref Fflint i orphwys wrth ochr ei rieni yn mynwent Eglwys y Plwyf, Llandegwning. Gwasanaethwyd yn absenoldeb y parchus reithor oherwydd ei waeledd, gan y Parchn. W. S. Williams, rheithor Bottwnog, yn yr eglwys a H. R. Roberts, rheithor Llanengan, ar lan y bedd.

Anghyhoedd oedd yr angladd. Y prif alarwyr oeddynt ei anwyl briod, Mrs. Evans, merch Mr. a Mrs. W. Hughes, Tynllidiart Farm, Llaniestyn, a warden y plwyf hwn, hefyd ei gefndryd. Yr oedd yn bresenol hefyd ei ewythr, y Parch. R. J. Jones, rheithor Crunwere Whitland, sef brawd ei mham, a'r Parch. R. W. Jones, Cilgwyn, gweinidog (A.,) ei ewythr ef; hefyd ei thad, a, brawd ei thad. Hefyd yr oedd Glyn Llyfnwy, darllenwr lleyg blaenllaw gyda'r Eglwys, a Mr. Griffith Roberts, Tanrallt, Bottwnog, ac eraill o'r teulu ond yn anadnabyddus i mi eu nodi i lawr am nas gwn eu henwau. Yr oedd iddo gefnder yn dod gyda Mrs. Evans a'r corph o'r Fflint yn y modur.

Yr oedd yn bresenol hefyd rai wedi dod i weled y gymwynas olaf yn cael ei thalu iddo, sef Mrs. Home Roberts, Rheithordy Llanengan; Miss Davies a Mrs. Roberts a'i dwy ferch, o Reithordy Llaniestyn, a Mr. E. T. Jones, o Langian. Yr oedd y ddau wedi bod gyda'u gilydd ac yn gyfeillion mawr pan yn y colleg yn Llanbedr.

Y dydd Sul canlynol, yn y boreu a'r hwyr, yn Eglwys Llaniestyn, gwnawd sylwadau neillduol ar yr amgylchiad gan y Parchn. Jones a W. S. Williams, rheithor Bottwnog, yn hynod o darawiadol a chanwyd emynau neillduol. Chwareuwyd y 'Dead March' gan Mrs. Roberts Rheithordy.

Bydded i'w briod alarus a'r teulu oll ymdawelu, er fod y brofedigaeth yn chwerw ac annisgwyliadwy, 'Canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y Dyn'. Eto y mae Efe yn dad i'r amddifad ac yn farnwr y gweddwon. Y mae yn gymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder. Ymdawelwch o dan alluog law Duw. Y mae efe wedi ei eni i ni yn frawd erbyn caledi, mewn awr dywyll fel hon. Diddaned yr Arglwydd chwi a'r ymadroddion hyn.

ROWLAND JONES.

Y Llan 12/01/1917