CLADDEDIGAETH Y PARCH JOHN DAVIES.
Dydd Mercher cymerodd claddedigaeth y Parch John Davies, yr hwn fu yn ficer y plwyf am gyfnod o 26 mlynedd, le ym mynwent y plwyf. Bu y gŵr parchedig farw yn nhy ei fab, y Parch Tegid Davies. Llanhangel-y-Pennant, y dydd Sadwrn blaenorol, yn ei 85 mlwydd oed.Bu yn gwasanaethu am gyfnod o 61 mlynedd fel clerigwr, ac yr oedd yn ysgolor Cymreig rhagorol.
Gwasanaethwyd yn yr angladd gan Esgob Bangor, yr Archddiacon Lloyd Jones, y Parchn H. J. Manley (Deon Gwledig Lleyn), David Jones, Abererch; a W. E. Williams, Bottwnog. Y prif alarwyr oeddynt y Parchn J. Davies, Prifathro King's College, Caer; Parch Tegid Davies, Rheithor Llannhangel-y-Pennant; a Mr Ivor Davies, Llaniestyn (meibion); Miss Davies a Mrs Roberts (merched), Parch H. Davies, Rheithor Gartheli (brawd); Parch J. Rowlands, Rheithor LIanfaircaereinion (cefnder).
Yr oedd hefyd yn bresenol y Parchn T. E. Owen, Aberdaron, a J. Edwards, Pwllheli.