NANHORON MARWOLAETH MR. ROBERT GRIFFITH, PENRALLT.
Dydd Gwener, Medi 26ain., bu farw'r gŵr adnabyddus uchod wedi cyrraedd o hono yr oedran teg o 83 mlwydd oed. Yr oedd yn ei gynefin iechyd ychydig ddyddiau yn flaenorol a daeth y diwedd yn sydyn.Masnachwr llwyddianus ydoedd wrth ei alwedigaeth. Bu yn un o golofnau'r achos yn Eglwys y Nant (M.C.). Efe fu'n arweinydd y gan ar ôl y diweddar Mr. William Jones, y Pandy. Bu hefyd yn arweinydd cor enwog y Nant flynyddau lawer yn ôl, ac adnabyddid ef adeg honno fel Eos Lleyn. Dygai fawr sel dros yr achos yn y lle a bu yn un o swyddogion ffyddlonaf yr Eglwys tra y caniataodd ei iechyd. Yr oedd wedi mynd i fethu dilyn y rhodfeydd i Seion yn y Nant ers amser maitih oherwydd gwendid. Gedy dri o feibion a thair o ferched i alaru eu colled ar ei ôl.
Dydd Mawrth diweddaf hebryngwyd ei weddillion i Gladdfa Llanbedrog. Cafodd angladd tywysogaidd. Gwasanaethwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parch J. Parry Jones. Ymgynullodd tyrfa barchus i Eglwys M.C. Nant nos Fawrth ar achlysur gwasanaeth coffa i'r diweddar Mr. Robert Griffith. Canwyd amryw emynau cymwys i'r amgylchiad a wasanaethwyd yn effeithiol gan y Parch. J. Parry Jones, gweinidog.