MARWOLAETH SYDYN.
Dydd Sadwrn, Mawrth 23ain, yn dra sydyn, bu farw Richard Pritchard, Shop Penbodlas, yn 63 mlwydd oed.Yr oedd gyda'i orchwyl arferol ddydd Gwener, ac yn y Seiat nos Wener yn nghapel Garn Fadryn, lle y cymerwyd ef yn wael. Yr oedd yn gymeriad ar ei ben ei hun, yn ddirodres, yn ddiddan, a chanddo drysorfa o adgofion dyddorol. Bydd chwithdod mawr ar ei ôl yn nghapel Garn Fadryn, lle yr oedd yn un o golofnau yr achos.
Hebryngwyd ei weddillion i orphwys i fynwent Dinas dydd Mercher.
Cydymdeimlir a'i weddw a'i blentyn bach a'r teulu oll yn eu profedigaeth lem.