PRIODAS.

Dydd Mawrth, unwyd mewn glan briodas yng nghapel y Wesleyaid, Pwllheli, tra y gweinyddai y Parch. D. Ynyr Hughes, B.A., Llanbedrog, Mr. Thomas Griffiths, Tynrallt, Llaniestyn (chauffeur yng ngwasanaeth Mr. C.H.Lloyd Edwards), a Miss Margaret Williams, Penrala, Tregarth (cook yng ngwasanaeth yr un bonheddwr).

Yr oedd i'r ddau le cynes yn nheimladau yr ardalwyr, a thystiolaeth o hyny yw y nifer luosog o anrhegion y maent eisioes wedi dderbyn, lawer ohonynt o gylchoedd uchel.

Ar ôl mwynhau boreubryd yn y White Hall Hotel, Pwllheli, ymadawodd y par ieuanc i Lundain i dreulio eu gwyliau priodasol. Boed eu rhan yn llawn cysur a dedwyddwch yn eu cylch newydd o fywyd.

Herald Gymraeg 31/03/1914