DAMWAIN.

Nos Fercher, fel yr oedd Mr a Mrs William Morris, Caegarw, Llaniestyn, yn dychwelyd o Bwllheli yn y cerbyd, aethant i wrthdarawiad a cherbyd arall ar yr allt ger Rhydyclafdy.

Trowyd y cerbyd a'i wyneb yn isaf a chafwyd cryn drafferth i ryddhau Mrs Morris odditano.

Derbyniodd Mrs Morris amryw o niweidiau lled ddifrifol, a gweinyddwyd arni gan Mr Richard Evans, meddyg esgyrn, Pwllheli.

Yr Herald Gymraeg 31/07/1917