LLANIESTYN.
Wedi cystudd maith a phoenus, yn 60 mlwydd oed, bu farw Mr. Richard Jones, Cefngaer, nos Sadwrn, Ionawr 31ain, gan adael ar ôl mewn galar weddw ac unig fab.Ddydd Iau y 5ed cyfisol oedd diwrnod ei angladd (cynhebrwng anghyhoedd). Claddwyd yn y fynwent sydd yn gysylltiedig a chapel Rehoboth, lle yr ydoedd wedi bod yn ddiacon nodedig o lafurus a ffyddlon am flynyddau lawer.
Yn ngwyneb ahsenoldeb y gweinidog, y Parch. J. Glyn Davies, oherwydd gwaeledd, ac yn unol a dymuniad olaf yr ymadawedig, gwasanaeth wyd ar yr achlysur yn y tŷ ac yn y capel gan y Parch. Hugh Davies, Abererch.
Yn yr hwyr cynhaliwyd yn y capel a enwyd wasanaeth goffadwriaethol, pryd y daeth cynulleidfa luosog ynghyd. Pregethwyd gan Mr Davies. Yn dilyn cafwyd gair gan bob un o'r diaconiaid.