MARW YN Y WLADFA GYMREIG.

Ddiwedd yr wythnos daeth hysbysrwydd o Batagonia bell am farwolaeth Mr. Robert Evans, mab y diweddar Mr. John Evans, Post Office, Llanllechid. Bu farw Ebrill 16eg yn 52 mlwydd oed, ac wedi treulio oddeutu 33ain o flynyddoedd yn y Wladfa. Claddwyd ef ym Mynwent y Gaiman ymhell o fro ei enedigaeth a mangre ei faboed. Dyry gohebydd yn y "Drafod" newyddiadur y Wladfa y dystiolaeth uchel a ganlyn amdano : "Perchid ef yn fawr gan y rhai oedd yn ei adnabod oreu o bob cenedl, ac yr oedd yn lled adnabyddus oherwydd iddo fod yn ngwasanaeth yr C.M.C. am gyfnod maith, a phrofi ei hun yn ddyn o ymddiriedaeth a chyflawni ei ddyledswydd ymhob cylch y rhoddwyd ef ynddo. Credwn nad oedd amheuaeth yn meddwl neb am uniondeb ei fwriadau a gonestrwydd ei weithrediadau. Yr oedd iddo air da gan bawb ac yn enwedig gan y rhai oedd yn ei adnabod oreu. Dyn ydoedd o dueddiadau tawedog a thawel ac eto nid oedd yn fyr o ddatgan ei argyhoeddiadau pan fyddai galw am hyny. Yr oedd yn aelod ffyddlon a gwerthfawr o Eglwys Tabernacl Trelew, a bu yn ysgrifenydd yr eglwys am gyfnod o amser a gwerthfawrogwyd ei wasanaeth. Colled fawr i'r Wladfa yw colli dynion o ymddiriedaeth ymhob cylch fel y brawd Robert Evans.

Herald Gymraeg 16/06/1914