Y DIWEDDAR ROBERT WILLIAMS, ROME, N. Y.
Nos Wener, Mawrth 12fed, yn ysbyty Rome, N. Y., bu farw Robert Williams, o'r lle hwn yn 58 mlwydd a 10 niwrnod oed. Ei afiechyd oedd y Bright's disease.Ganwyd Mr. Williams yn mis Mai, 1856, mewn ffermdy o'r enw Tyddyn Uchaf, plwyf Llanor, ger Pwllheli, Arfon, G. C. Ei rieni oeddynt John ac Ann Williams, ei fam yn wraig neillduol o grefyddol. Pan oedd Robert ond 13eg oed, bu farw ei dad, a chan mai ef oedd yr unig fab,daeth gofal y tyddyn i'w ran ef. Pan oedd yn 17 oed derbyniwyd ef yn bregethwr yn eglwys Rhosfawr, ac yn ddylynol yn aelod o'r Cyfarfod Misol.
Ordeiniwyd ef yn 1882, yn Nghymdeithasfa Llangefni, Mon, a chafodd alwad i fugeilio eglwys Seisnig Nant Gwtheyrn, a bu yno dair blynedd. Bu yn ddylynol yn bugeilio eglwys Penycaerau, yn Lleyn, ac yn 1888, daeth ar ymweliad a'r wlad hon, a chafodd dderbyniad caredig. Wedi blwyddvn arall yn Nghymru, ymfudodd drosodd i'r talaethau a bu yn gwasanaethu eglwys Rome am saith mlynedd, ac eglwys Coaldale, Pa., am dair blynedd.
Bu'n briod ddwywaith. Yn 1890 ymbriododd a Miss Mary Williams. Rhydlios, Lleyn, yr hon fu farw Mawrth 1892, gan ei adael ef a'i ferch fach i alaru ei cholled. Yn 1899, yr ail waith ymunodd mewn priodas a Miss E. Jones, Rome, yr hon gydag un mab sydd wedi eu gadael yn alarus.
Cymerodd yr angladd le o'i gartref 309 W. Court St., prydnawn Mawrth, gwasanaethwyd gan y Parchn. J. Isaac Hughes. Uttica; Thomas E. Jones, Nelson a Dr. Roberts. Rome, a canodd y pedwarawd amryw ddarnau yn Gymraeg. Yr oedd y blodau yn lluosog. Yr archgludwyr oeddynt : William R. Williams, o Utica; Robert O. Williams, Llanrwst; John S. Williams, Hugh Williams a William J. Williams, o Rome.
Gedy mewn galar Mrs. Williams a'i mab. Oswald, a Miss Mary Williams, o Buffalo, N. Y., sef ei ferch o'r briodas gyntaf. Mae iddo chwaer yn Lerpwl, Lloegr.