MARW MORWR ADNABYDDUS.

Mae genym y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth y morwr diddan ac adnabyddus Capt. David Pritchard, Llwyn Beuno, yr hyn a gymerodd le foreu Sul, ac efe yn 78 mlwydd oed.

Daeth y diwedd iddo yn dra sydyn, er nad oedd yn dda ei iechyd er's amser bellach. Chwith meddwl fod y morwr dewr a'i ymddiddanion melus wedi rhoi ffarwel i fyd y gofid yn gyfnewid am loewach nen. Ceid ynddo gymwysderau arbenig a nodweddion gwir i fod yn wasanaethgar i gymdeithas, a bu felly am gyfnod maith mewn byd ac eglwys. Gweithiodd yn galed yn ei ddydd, a theilwng yw hûn y gweithiwr gonest. Bydd colled dirfawr ar ei ôl yn yr ardal fel cymydog a chymwynasydd, ac fel aelod dilychwin o'r ddeadell FethodistaiJd yn Berea.

Cymer y gladdedigaeth le, yr hon fydd gyhoeddus, yn mynwent Penrhos, ddydd Iau nesaf am 1 o'r gloch.

Gedy deulu lluosog ar ei ôl, a'r rhai y mae ein cydymdeimlad dyfnaf.

Yr Udgorn 25/04/1917


EFAIL NEWYDD. ANGLADD CAPTEN PRITCHARD.

Dydd Iau, Ebrill 26ain, claddwyd weddillion y diweddar Capt. David Pritchard, Llwyn Beuno, ac efe yn 78 mlwydd oed, (angladd cyhoeddus yn Mhenrhos). Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch. T. Williams, Pwllheli, ac ar Ian y bedd gan y Parch Robert Robert Roberts, gweinidog.

Y prif alarwyr oeddynt :- Cerbyd cyntaf: Mr a Mrs Williams, Hendre, Capt. a Mrs Pritchard, Criccieth, Capt a Mrs Pritchard, Caergybi; ail gerbyd Capt. a M rs Griffith, Glan Beuno, Mrs Pritchard, Mr Griffith Williams, Pwllcrwn, Ellen, Kate, May a John Williams, Hendref, a Bessie Pritchard, Criccieth; trydydd cerbyd Mrs Griffith, Post Office, Tydweiliog, Mrs Roberts, Porth Colmon, Mrs Roberts, Caerau, Mri William Williams, Congl Cae, Griffith Roberts, Porth Golmon. a Evan Jones, Lleiniau Anfonwyd blodeu- dyrch gan y rhai canlynol Cadfridog P. M. Ellis, Rhyllech Mr Perkins, Bodegroes; Pysgotwyr Pwllheli W. a Gay Pritchard, Criccieth; Owen a M Williams Hendref; David a E. A. Pritchard, Caergybi; Griffith a E. Griffith, Glan Beuno Ellen, Katie, May a John Williams, Hendre.

Bydd yn chwith gweled ei le'n wag mewn lIawer cylch, yn gymdeithasol a chrefyddol, yn enwedig yr olaf. Yr oedd yn ffyddlon gyda phob ag yr oedd a fynno ag et. Nis gallai lai na bod yn amlwg ymhob cylch y troai ynddo, yn hoff gan wreng a bonedd. Un elfen amlwg yn ei gymeriad oedd amtod yn sicr, yn right ar bob pwnc. Ni chymerai ei gario gyda phob awel. Onid oedd wedi hen arfer a llywio'n erbyn gwynt a lli. Hwyliodd, yn ystod ei oes, i lawer porthladd. Erbyn hyn y mae wedi cyraedd hafan lle na fydd codi angor mwy.

Draw o genlli dryginllyd - adref aeth,
Draw i fythol wynfyd
I fewn i glan hafan glyd - y nefoedd,
A thawel ddyfroedd y 'Porthladd Hyfryd'

Dymuna'r teulu ddiolch yn garedig a chywir i'r cyfeillion lluosog ddangosodd, trwy lythyrau ac amryw ffyrdd eraill, eu cydymdeimlad a hwy yn eu profedigaeth chwerw o golli un môr dirion.

Yr Udgorn 09/05/1917