MARW AMAETHWR ADNABYDDUS.
Nos Sul diweddaf bu farw yr amaethwr adnabyddus Mr John Williams, Goetref (gynt Penyberth), ac efe yn 82 mlwydd oed.Ystyrid ef yn ei ddydd yn un o amaethwyr mwyaf cyfrifol y wlad, a bu ei lwyddiant yn myd amaethyddiaeth yn fawr. Yr oedd yn gymeriad nodedig o hoff, a hawdd y gellid gwneud cyfaill o hono. Nid oedd ei iechyd yn dda ers amser bellach, ond ni feddyliodd neb fod y diwedd mor agos.
Yr oedd Mr Williams yn frawd i Mrs Morgan Evans, Alunfa, Salem Terrace. Pwllheli.
Cymer yr angladd (preifat) le ddydd Gwener nesaf yn mynwent Penrhos. Cydymdeimlwn a'r teulu oll yn eu dwfn alar.