YNADLYS PWLLHELI.
ERLYN GWERTHWR LLEFRITH.
Cynhaliwyd ddydd Mercher.Ar y fainc. Mr J. G. Jones (Cadeirydd). Mr Maurice Jones. Mr W. Anthony. Dr S. W. Griffiths. Mr G. Hughes Roberts. Mr W .W. Griffiths, Mr J. Hughes Parry.
Erlynai yr Arolygydd Vaughan Davies dri o werthwyr llefrith o Bwllheli ac ymddangosai Mr William George ar ei ran.
Yr achos cyntaf ydoedd yr un yn erbyn H. Tudwal Davies, Gellidara. Dywedai Mr William George fod y sampl gymerodd yr arolygydd yn cynwys 6 grains ym mhob galwyn o faw, yn benaf baw gwartheg, a 5 i 6 y cant o ddwfr. Nid oeddynt am erlyn o berthynas i r cyhuddiad olaf. Dywedai Mr George fod y mater o leirith pur yn bwysig iawn yn yr oes hon pan yn gwneyd cymaint ymdrech i sicrhau diogelwch i iechyd y cyhoedd, ond yr oedd y ffermwyr Cymreig yn tybio nad oedd bosibl cyfnewid pethau.
Tystiai yr Arolygydd Vaughan Davies iddo gymeryd llefrith gan 10 o werthwyr llefrith ar Ebrill y 26ain, ym Mhwllheli, a chafodd fod dau ohonynt yn cynwys baw gwartheg. Cymerodd lefrith gan y diffynydd o'r llestr yr elai a llefrith i'r tloty. Gwyddai ef fod yn ddigon hawdd cael lefrith glan heb fudreddi ynddo o gwbl. Mewn atebiad i Mr Cradoc Davies, dywedai ei fod yn Arolygydd ers 16 mlynedd, ac ni chafodd ddim allan o le yn llefrith y diffynydd erioed o'r blaen. Yr oedd gwahaniaeth rhwng y llestr a gynwysa lefrith y tloty a'r llestri eraill. Pan ddywedodd y dadanseddydd fod y baw yn cynwys baw gwartheg yn benaf, "meddylai fod 9 rhan o 10 o'r sediment yn faw gwartheg. Nid oedd dim baw gwartheg ar y llestr Iaeth.
- Mr William George: Doedd yna ddim gwartheg mewn awyren yn yr awyr ar y pryd a'i oedd? (chwerthin).
- Tystiodd Dr Parry Edwards. swyddog iechydol y sir, fod y swm o faw oedd yn y llaeth hwn yn beryglus i iechyd y cyhoedd, yn enwedig i iechyd plant bychain. Yr oedd yn bosibl cael llefrith hollol glir o faw o'r fath gyda gofal. Nid oedd raid ond golchi y pwrs a'r dwylaw a chadw y llaethfa yn lan. Mewn croesholiad dywedodd ei fod wedi gwneyd arbrawf bersonol ei hun a chael llaeth hollol bur. Gellid cael llaeth pur hyd yn oed yn uniongyrchol oddiwrth y fuwch heb ei hido o gwbl.
- Mr William George. Does yna ddim tail o'r tu fewn i'r fuwch, ai oes? (chwerthin).
Dadleuodd Mr W. Cradoc Davies ar ran y diffynydd nad oedd gan yr Arolygydd ddim hawl i gymeryd sampl o'r llefrith a werthid i'r tloty am eu bod yn ei werthu dan gontract i'r Undeb heb yn gyntaf gael caniatad Bwrdd y Gwarcheidwaid neu dderbvn cwyn oddiwrthynt. Galwodd Mr Davies ar Mr W. J. Davies. mab y diffynydd, i brofi fod cytundeb rhyngddynt a'r undeb i gyflenwi llefrith i'r tloty. Dywedodd y Clerc nad oedd y llefrith yn eiddo y tloty nes ei gyflwyno drosodd. Dywedodd Mr Cradoc Davies mai eiddo y tloty oedd y llestr. Dywedodd Mr Vaughan Davies mai ar y ffordd yr oedd y cerbyd a'r llefrith pan ofynodd am y sampl.
Wedi peth dadleu pellach taflodd y fainc yr achos allan.
Yn ddiweddarach hysbysodd Mr W. George, y fainc nad oedd yn fodlon ar eu dyfarniad a gofynodd am eu eaniatad i'r clerc baratoi yr achos ar gyfer yr Uchel Lys os y byddai iddo ef apelio.
Caniatawyd y cais.
Herald Gymraeg 26/05/1914
MARW MR. TUDWAL DAVIES.
Amaethwr a Bardd.
Chwith iawn gan luoedd o ddarllenwyr yr "Herald" fydd deall am farwolaeth Mr. Hugh Tudwal Davies, Gellidara, ger Pwllheli, Bu ef yn nychu am tua pedair blynedd, ac ehedodd ei ysbryd at yr Hwn a'i rhoes am haner awr wedi chwech nos Wener, Ebrill 25.Ganed ef yn Mynachdy Gwyn, Clynnog, yn haf y flwyddyn 1848. Yr oedd yn o dyaid o blant, ac y mae y rhan fwyaf ohonynt wedi tyfu yn ddynion adnabyddus a defnyddiol mewn cymdeithas. Hanai o hen deuluoedd enwog ac adnabyddus. Yr oedd ei dad, y diweddar Mr. Hugh Davies, yr Orsedd, yn frawd i'r hen bregethwr adnabyddus y Parch. Robert Hughes, Uwchlaw'rffynon, ac yn ŵr o feddwl cryf a chalon wresog. Yr oedd ei fam yn ferch i'r diweddar John Roberts, Graianog. Yr oll yn golofnau cadarn yn y Cyfundeb Methodisitaidd. Cafodd well cychwyn na'r cyffredin o feibion amaethwvr ei oes. Gellir dweyd ei fod wedi cychwyn ei yrfa mewn ystyr sylweddol iawn wrth draed Gamaliel sef yn ysgol Eben Fardd yn Nghlynnog. Ar ôl hyny bu iddo fyned i berffeithio ei addysg mewn ysgol ramadegol yn Dublin, ac yna dychwelodd adref i fod yn "Amaethon bodlon a bardd."
Bu yn amaethu amryw o ffermydd pwysig megys Brynllaeth, Fourcrosses, Llwynrhudol, ger Abererch, a Gellidara, sef cartref ei briod, yr hon sydd yn ferch i'r diweddar Barch "Capten Hughes, Gellidara." Ganwyd iddynt bedwar o feibion y rhai sydd yn debyg o gadw urddas y teulu yn wyrdd am genedlaethau i ddod. Mae y Parch Emyr Davies, Brymbo - y mab hynaf eisoes wedi enill coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy waith. Y mae y Parch D. O. Davies yn weinidog defnyddiol yn Rhosesmor, Fflint; tra y mae Mri. William John Davies a Robert Eilid Davies. yn dilyn galwedigaeth eu tad, y blaenaf yn ddiacon defnyddiol yn Penrhos, a'r olaf yn byw yn Nantgolchi.
Cwynai y diweddar Emrys ap Iwan yn ei Homiliau fod dynion yr oes hon yn brysio gormod i ymenwogi fel yr oeddynt yn dechreu dysgu eraill cyn haner dysgu eu hunain. Er i Tudwal ddod i gyhoeddusrwydd yn bur ieuanc a chael ei ddewis yn ddiacon pan nad oedd ond llencyn 25 mlwydd oed, ni bu ei gyhoeddusrwydd yn un byrhoedlog am ei fod yn ymhyfrydu mwy mewn darllen a myfyrio o'r golwg nag ydoedd am ymddangos yn ddoeth a dysgedig yn yr amlwg. Llanwodd y swydd o ddiacon am gyfnod o 48 mlynedd. gydag urddas a dylanwad mawr. Bu yn llywydd Cyfarfod Misol Lleyn ac Eifionyda ddwy waith, ac yr oedd yn aelod sefydlog ar bwyllgor y Genhadaeth Gartrefol. Yr oedd yn gynrychiolydd cyson i'r sasiynau a'r cymanfaoedd. Bu yn agor trafodaethau ar faterian crefyddol ynddynt droion. Heblaw ei fod yn Wr diwylliedig a doeth yr oedd hefyd yn feddianol ar bersonoliaeth hapus, ac yr oedd ei ymddangosiad yn sicrihau sylw a dylanwad. Nid oedd Tudwal yn cyfyngu ei ddefnyddioldeb i bethau crefyddol, ond edrychid ato am arweiniad mewn cylchoedd gwladol a chymdeithasol. Etholwyd ef yn henadur ar y Cyngor Sir cyntaf gynhaliwyd a bu yn llanw y swydd am bymtheg mlynedd. Hefyd bu yn aelod o Fwrdd Undeb Pwllheli a Chyngor Dosbarth Lleyn am ddeuddeng mlynedd.
Ond dichon mai fel bardd ac eisteddfodwr y mae y rhan fwyaf yn gwybod amdano. Gwelir mai derwen dal braff aml gangenog ac uchelfrigog ydoedd. Nid oes neb a'i hadwaenai yn well yn y cyfeiriad hwn nag Alafon, a dyma fel yr ysgrifena ef am dano yn "Yr Ymwelydd Misol," Medi 1913:
"Llawer iawn o weithiau y bu yn beirniadu neu yn arwain mewn cyfarfodydd llenyddol ac eisteddfodau lleol er pan yn ddeunaw oed ac onbai iddo ddewis cilio buasai mor amlwg ynddynt yn awr ag erioed. Anhawdd fyddai meddwl am neb a gwell presenoldeb a llais, a dawn, a dull, ar gyfer cyfarfodydd felly nag a feddai ef. Y mae hefyd wedi bod yn dra ffyddlon i'r Eisteddfod Genedlaethol hyd yn ddiweddar iawn, ac yn un o wyr amlycaf ei gorsedd a'i banllor. Fe fuasai yn gwneyd Archdderwydd dan gamp, pe galw. Ac i'r Eisteddfod y bu'r golled na fuasai ef wedi cael bod lawer gwaith yn un o arweinyddion ei chyfarfodydd."
Bu yn llwyddianus iawn fel cystadleuydd a chipiodd tuag ugain o wobrau yn Eisteddfod Genedlaetthol o bryd i bryd. Bu hefyd yn ail a thrydydd ar destyn y gadair droion. Ac enillodd gadeiriau, coronau a medalau lu mewn eisteddfodau lleol. Yr oedd hefyd yn aelod o bwyllgor gweithiol Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Wele rai o'i englynion buddugol i "Hafan Sant Tudwal" yn Eisteddfod Genedlaethol (1875).
"Rhyw gilfach wyt, ar gulfor,-i ddianc
O longau ddiengyd;
Di-ail fan, ar dawel for,
I longau daflu angor."
"Wele'r fan! hafan. hefyd—i lynges
O longau ddiengyd;
Nwyddawg long !—dyma nawdd glyd
Rhag cenlli'r aig drycinllyd."
Dyma ddernyn tarawiadol o'i gywydd buddugol i hyawdledd yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 1903:-
Trwy wawdiaeth lem fel trydan
Dyry dorf i gyd ar dan;
Gwen o'i olwg anela,
A myrdd ddwg i dymher dda,
Medd ieitheg a rheitheg rwydd,
A nwyd enaid yn danwydd.
Yr oedd y chwareus yn bur gryf fel y dengys y llinellau canlynol a wnaeth yn ddifyfyr ar gyhoeddiad Eisteddfod Genedlaethol Ffestiniog : -
"Daw haul dros y creigiau crog,
I gloi ystenau glaw 'Stiniog,"
A dyma fel y cyfarchodd Hwfa Mon yn un o'r Eisteddodau : -
"Fe geidw warehouse o brif gadeiriau,
A show o'r medals a'u llaes rwymiadau."
Mae ef erbyn hyn wedi myned i'r wlad y sonia am dani yn niwedd ei gywydd ar y testyn gwlad-yr hon a ddisgrifia
Heb anrhaith, ac heb unrhyw
Afiechyd, na thwrf ochain
I chwerwi cerdd ei chor cain.
Cydymdeimlir yn fawr a'i briod a'r teulu oll yn eu profedigaeth. Cymer yr angladd le heddyw (dydd Mawrth) yn mynwent Penrhos, i gychwyn o'r tŷ am un o'r gloch.
Herald Gymraeg 27/04/1915
Y DIWEDDAR MR. TUDWAL DAVIES.
Yr Angladd.
Daeth cynulliad lluosog a pharchus iawn yn nghyd o wahanol gyrrau y wlad i dalu y gymwynas olaf i weddillion y gwr adnabyddus uchod dydd Mawrth. Cymerodd yr angladd le yn Mynwent Penrhos. Llywyddwyd y gweithrediadau gan Mr. O. Robyns Owen, cyfreithiwr.Arweiniwyd y gwasanaeth yn y tŷ gan y Parchn. William Jones, M.A., Fourcrosses, a John Hughes, Edeyrn. Cludid yr elorgerbvd gan ddiaconiaid Abererch a Penrhos.
Cynhaliwyd gwasanaeth yn addoldy Bethel, Penrhos, dan lywyddiaeth Mr. Robyns Owen, yr hwn a sylwodd fod yr ymadawedig wedi llanw llawer iawn o gylchoedd yn ei fywyd, a'u llanw yn gyflawn iawn. Bu iddo gyfoethogi pob cylch y bu ynddo, yn wladol, moesol a masnachol, ac yr oedd yn derbyn llawer yr un pryd. Ond yn y cylch crefyddol yr ymhyfrydai fwyaf. Bu yn ddiacon am 46 o flynyddau, a gwnaeth ei waith gydag urddas a dylanwad mawr.
Sylwodd y Parch. John Owen, M.A., Criccieth. nad oedd ef yn credu mewn gwneyd ymdrech i ddyfnhau galar mewn adeg o'r fath. Y gorchymyn oedd iddynt ddiddanu eu gilydd. Nid oedd y cyfaill ymadawedig yn credu mewn gwastraffu amser i feddwl am farw. Yr oedd yn rhy brysur yn byw tra y bu yma. Nid oedd yr amheuaeth leiaf yn meddwl neb a'i hadnabyddai o berthynas i'w gyflwr yn awr, ac nid oedd galar yn briodol ar achlysur o'r fath. Yr oedd bywyd Mr. Tudwal Davies, trwyddo draw y diystyrwch mwyaf ellid ei gael ar y clefyd sydd yn meddianu rhai pobi i gasglu y byd. Yr oedd Tudwal yn ffarmio fferm anferthol o fawr - mwy o beth anrhaethol na Gellidara. Yr oedd yr Eisteddfod, y Sasiwn, y Cyngor Sir, Bwrdd y Gwarcheidwaid, a'r Capel - yr oll yn rhan o'i fferm ef. Ond cymerai fwy o ddyddordeb mewn pethau crefyddol na dim byd arall. Ni byddai byth yn cymeryd "side" ar unrhyw fater fel y mae arfer rhai. Siaradai yr un mor foneddigaidd a pharchus gyda'r cardotyn ag a wnai a'r boneddwr penaf. Elai i'r Cyngor Sir neu'r Sasiwn yr un mor syml a diymhongar a phe yr elai i'r cyfarfod mwyaf cyffredin. Byddai ambell un yn rhoi rhyw "side" arno ei hun i fynd i'r Cyngor Sir, ac yn edrych yn chwyddedig a hunanol. Nid oedd ganddo fawr o syniad am liw a phrydferthwch. Nid perffeithrwydd ffurf ond y cadarn a'r mawreddog oedd yn apelio ato ef. Doedd ganddo yr un syniad ar y lliw priodol i gael tie neu gadach poced. Byddai ganddo weithiau y lliwiau mwyaf anaturiol. Nid oedd ganddo chwaith glust at gerddoriaeth. Bu ef ac yntau yn ceisio dysgu solffa gyda'u gilydd ond bu y ddau yn fethiant truenus, ac ni bu asent yn dysgu cerddoriaeth mewn 20 mlynedd. Ond pan y symudid i dir barddoniaeth a llenyddiaeth yr oedd pethau yn newid. Nid oedd neb allai weled y tlws a'r prydferth yn gynt mewn dernyn o farddoniaeth. Ac os byddai rhyw ddiffyg yn y lliwiau byddai ei reddf lenyddol ef yn ei gashau ar un waith. Yr oedd ganddo feddwl clir a meddwl trefnus. Ac yr oedd ganddo feddwl cyfoethog. Cafodd brawf arno yn y cyfeiriad hwnw trwy alw arno i siarad ar ryw fater yn ddifyfyr yn y Cyfarfod Misol pan na byddai fawr o fynd ar bethau. Yr oedd wedi meistroli y gorchwyl o roddi pris ar y pethau yr oedd gwerth ynddynt.
Dywedodd Mr. Richard Jones, blaenor ym Methel, ei fod wedi treulio naw mlynedd fel swyddog gyda'r ymadawedig ac un o'r pethau fyddai yn ei daraw ef fwyaf ydoedd fod dyn oedd yn feddianol alluoedd mor fawr yn meddu ar y fath gydymdeimlad â'r gwan a'r methedig. Byddai ei bresenoldeb yn y cyfarfodvdd yn symbyliad i'r rhai ofnus ac nid yn ddychryn.
Caed gair yn nesaf gan Mr. Robert Parry, J Gwynfryn, Pwllheli, yr hwn fu yn gydswyddog ag ef yn yr Abererch. Dywedodd fod yr ymadawedig yn ŵr urddasol a thywysogaidd, ac anrhydeddus. Byddai yn gwneyd ei oreu i ddyrchafu pawb, ac yr oedd ei gwmni yn foddion i ddyrchafu pawb ddeuai i gyffyrddiad ag ef. Bu ef yn gyfaill ffyddlon iddo am 40 mlynedd, a theimlai yn ddwys iawn o'i golli.
Dywedodd y Parch. J. Puleston Jones, er fod yn Lleyn ac Eifionydd set o flaenoriaid nad oedd eu rhagorach yn Nghymru, nad oedd ganddynt ond rhyw bump neu chwech y gwyddai y byd y tuallan am danynt, ac yr oedd Mr. Tudwal Davies ar y blaen yn mysg y rhai hyny. Pe y rhoddasai ei fryd ar fod yn llenor neu fardd enwocach nag ydoedd buasai yn sicrhau hyny yn hawdd. Ond rhoddodd ei fryd ar wasanaethu yr Ysgol Sul, y seiat, a'r cyfarfod gweddi. Dylai yr Hen Gorph fod yn falch ei fod yn foddion i atdynu y goreu o ddynion mor ragorol a hyn. Yr oedd yn gyfaill hefyd i bregethwyr. Nid oedd neb cyflymach nag ef i weled eu musgrellni a'u haflerwch, ond byddai yn cydymdeimlo a hwy ac yn rhoddi rhyw ysbrydiaeth iddynt i fyned yn mlaen. Dywedai fod yn angenrheidiol cael dau beth i wneyd arweinydd da. Yn gyntaf, rhaid i'r dyn arwain heb ofn, ac yn ail, rhaid iddo sicrhau na bo ar y bobl ofn cael eu harwain ganddo. Yr oedd gan Tudwal wroldeb i arwain, ac yr oedd yn gallu enill serch ac ymddiriediaeth pobi i gymeryd eu harwain ganddo: "Yr hwn a dosturia wrthynt a'u tywys." Cymerwyd rhan mewn darllen a gweddio gan y Parchn Thos. Williams, Pwllheli; Griffith Parry, Borth; David Roberts, Abererch; J. H. Williams, Porthmadog, a Robert Jones, Rhosfawr.
Yr Herald Gymraeg 04/05/1915
Angladd Mr. H. Tudwal Davies.
Brydnawn Mawrth, Ebrill 27ain, hebryngwyd gweddillion marwol Mr H. Tudwal Davies, Gellidara, i orphwys yn mynwent Penrhos.Yn y gwasanaeth coffa yn y capel llywyddwyd gan Mr O. Robyns Owen, a chymerwyd rhan gan y Parchn Jonn Owen, M A J. Puleston Jones, M.A.; G. Parry, Parch W. Jones, M. A., Fourcrosses; J. Henry Williams, Porthmadog; J. Hughes, Edeyrn T. Williams, Pwllheli; Robert Jones, Rhosfawr; Mri. Richd. Jones, Penrhos, a Robert Parry, Gwynfryn.
Y rhai â ganlyn oedd y prif alarwyr:- Y Parch H. Emyr Davies, Parch D. O. Tudwal Davies, Mri W. J. Davies, ac R. Davies. (meibion) Mri J. H. Davies, Caer- tyddyn D. H. Davies, 'Rorsedd, William Davies, Heulfron, ac O. H. Davies, Llundain (brodyr); Mrs Jones (chwaer) a Capt. Jones, Talafon; Mr Davies, Caertyddyn; Mrs Griffith (chwaer) a Mr. D. Griffith, Califfornia; Mrs D. O. Tudwal Davies a Mrs R I. Davies (merched ynghyfraith); y Parch Dr. Hugh Jones, Penrhyn; Mr a Mrs H. Ariander Hughes, Llanberis; Mr a Mrs J. H. Parry, U.H., Penllwyn; Mr a Mrs D. H. Parry, Vronallt; Mr W. H. Parry, Clogwyn; Mri H. Hughes ac O. Hughes, Caerau; Mrs L. H. Roberts, Aberystwyth; Misses Williams, Bryngoleu, Pwllheli; Mrs Williams a Mrs Jones; Miss Helen Davies, Caertyddyn; Miss Enid Griffith, Califfornia; Mr Hugh Davies, 'Rorsedd; Mr Wm. Jones, Maenllwyd; Mrs Evans, Bungalow, Pwllheli; Mr a Mrs Griffith, Tanyllyn.
Pregethwyd pregeth angladdol yn nghapel Penrhos yn yr hwyr gan y Parch David Roberts, Abererch.