MARWOLAETH MRS. TUDWAL DAVIES, GELLIDARA.
Ddydd Gwener, Hydref 18fed, ar ôl rhai wythnosau o gystudd, bu farw y wraig garedig uchod yn 69 mlwydd oed, Merch henaf ydoedd i'r diweddar Barchedig Capten a Mrs. Hughes, Gellidara.Ymysg llawer o rinweddau gellid dweyd ei bod yn nodedig am ei charedigrwydd, yr hyn sydd wedi bod yn nodwedd amlwg yn nheulu Gellidara ar hyd y blynyddoedd, a chadwodd hithau i fyny draddodiadau ei hynafiaid.
Claddwyd hi ddydd Mawrth dilynol yn mynwent Capel Penrhos (angladd preifat). Gwasanaethwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parchn. J. Hughes, Edeyrn, a R. Jones, Rhosfawr.
Yr oedd yn bresenol yn yn yr angladd Y Parchn. H. Emyr Davies, David O. Tudwal Davies; Mri W. J. Davies a R. J. Davies (meibion); Mri. William Hughes ac H. Ariander Hughes (brodyr); Mrs. D. H. Parry (chwaer); Mr. H. Hughes Parry (nai); Mrs. Emyr Davies a Mrs. R. J. Davies (merched yng nghyfraith); Mr. D. H. Parry (brawd yng nghyfraith); Mr. George. Aberkin Jones (nai); Sydney, Noel, Annie, Blodwen, a Hughie (wyrion).
A'r perthynasau canlynol Mri. J. H. Davies, Caertyddyn; W. Davies, Lluest; D. H. Davies, 'Rorsedd; Capt. Jones, Talafon; Mrs. Evans, Llangennech Hall (cyfnither); Mrs. H. Jones, Talafon; Mri. J. H. Parry, Penllwyn; Huw Hughes, Caerau; R. M. Roberts, Penrhynydyn; J. Morris, Penybont; Gwynedd Davies, Cae Tyddyn; J. Williams, Botacho Ddu a'r cymydogion canlynol Mri O. Robyns Owen; Richard Jones, Tynryn; J. H. Roberts, Castell; Griffith Jones, Tyn Llywelyn; Mr. a Mrs. Evan Williams, Penybryn; Mri Thomas Griffith a J. T. Evans; Nurse Parry, Hull; a'r gwasanaethyddion.
Yr undertaker ydoedd Mr Edward Williams, Shop Glasfryn, Pwllheli.