YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd ddydd Mrcher gerbron Mri. J. G. Jones, Maurice Jones, a J. Hughes Parry.

HELYNT Y TEIRW ETO.

Erlynai Mr. Charles S. Roberts, Arolygydd Trefol, W. J. Davies, Gellidara, am yru tarw trwy dref Pwllheli heb ei ddiogelu yn briodol.

Dywedodd Mr. Cradoc Davies, ar ran yr erlynydd, nad oedd na modrwy na rhaff yn mhen y tarw, ond ei fod yn berffaith llonydd a diberygl ar y pryd. Ond gallai dori yn rhydd unrhyw adeg, a gwneyd niwed mawr yn enwedig pan yr oedd cymaint o filwyr yn y dref.

Dywedodd y Rhingyll Lloyd ei fod wedi gweled y diffynydd yn gyru y tarw trwy y Maes. Yr oedd yn darw mawr a golwg hyll iawn arno.

Y diffynydd: Nid oedd yn darw mawr. Yr oedd yn un o'r rhai lleiaf a anfonwyd eleni.

Y Rhingyll: Yr oedd ganddo ben anferth (chwerthin).

Dywedodd y diffynydd ei fod wedi rhoddi rhaff unwaith yn ei ben, ond gan ei fod yn llonydd ac yn gwrthod cerdded gyda'r rhaff bu iddo ei thynu ymaith. Nid oedd ef yn deall fod y mân reolau i'w cymhwyso at dref Pwllheli yn awr. Yr oedd ffermwr arall newydd fyned a tharw heb ddim rhaff yn ei ben, nas gwyddai paham yr erlynid ef. Daeth y rhingyll ato a'i law yn ei boced, pebai y tarw yn berygl buasai yn rhedeg am ei fywyd (chwerthin).

Taflwyd yr achos allan ar daliad 6s o gostan.

Herald Gymraeg 16/02/1915