HELYNT YN NGHYLCH HWRDD.
Hawliai William Robberts, Ty'nllwyn, Llannor y swm o 2p. 15s. oddiar John Jones, Rhyllech Ucha', sef pris hwrdd a roddodd yn fenthyg iddo flwyddyn yn ôl.Dywedodd Mr Roberts ei fod wedi cyfnewid hwrdd â Jones, ond na chafodd ef ei hwrdd yn ôl eto.
Dywedodd John Jones ei fod wedi rnyned a'r hwrdd yn ôl i fferm John Williams, Tan'rallt, am mai yno yr archodd Roberts iddo ei anfon am ei fod yn ei roddi yn fenthyg i Roberts.
Dywedodd John Williams, Tan'rallt, nad oedd ef yn disgwyl oen oddiwrth Roberts eleni. Deallai fod yr oen wedi d'od yno ddydd lau, ac wedi myned ymaith y Sadwrn. Ni wyddai efe i ba le.
Dywedodd Roberts ei fod ef wedi cytuno â Jones i ddod a'r hwrdd yn ôl i Dy'nllwyn.
Archodd y Barnwr i Jones dalu'r 2p. 15s. a'r costau.