Llys y Man Ddyledion, Pwllheli.

Cynhaliwyd ddydd Mawrth, Medi'r 1af o flaen y Barnwr William Evans.

Apeliai Mr Robert Edwards, Rhosbach, am i'r iawndal delid i Thomas Jones, Llanbedrog, gael ei newid, gan fod dau feddyg yn credu y gallai wneud gwaith ysgafn. Hysbysid y bu yn gweithio dridiau yr wythnos cynt yn y cynhauaf am ddeuswllt y dydd a'i fwyd.

Gofynai am gael talu 3s 6c. yr wythnos yn lie 11s 6c.

Ymddangosai Mr Cradoc Davies dros Thomas Jones, a dywedai, er fod Jones yn gallu gwneud gwaith ysgafn, eto nid oedd yn debyg i fel y bu, ac awgrymai ef fod iddo gael 6s yr wythnos.

Gwnaeth y Barnwr archeb am 3s. 6c. yr wythnos, gan ohirio'r mater hyd y Llys nesaf, i'w drafod ymhellach os byddai hyny'n angenrheidiol.

Yr Udgorn 09/09/1914


Llys Man-Ddyledion Pwllheli.

IAWNDAL O GEINIOG YR WYTHNOS.

Ddydd Mawrth, yr wythnos ddiweddaf, o flaen y Barnwr William Evans, gwneid cais gan Mr. John Humphreys, Porthmadog, ar ran Robert Edwards, Rhos Bach, Pwllheli, am i'r iawn-dal delid gan Edwards i Thos. Jones, Gors, Llanbedrog, gael ei ddiddymu.

Cyfarfu Thomas Jones â damwain pan yn ngwasanaeth Edwards yn y flwyddyn 1913, a chaniatawyd iddo iawn o 11s. 3c. yr wythnos. Yn Mawrth, y flwyddyn ddiweddaf, tynwyd y tâl i lawr i 3s. 6c. yr wythnos, ac yn awvr gofynid am ei lwyr ddiddymu gan yr honid y gallai Jones wneud yr un gwaith yn awr ag a wnai cyn y ddamwain.

Tystiwyd i'r perwyl hwnw gan Dr. E D Evans, eithr dywedai Jones nas gallai wneud yr un gwaith a chynt.

Gan nad oedd gan Thomas Jones gyfreithiwr i'w gynrychioli dywedodd y Barnwr nad oedd am ddiddymu y tâl yn ffurfiol, eithr yn hytrach fe'i tynai i lawr i geiniog yr wythnos.

Yr Udgorn 13/10/1914