MEWN OEDRAN TEG.

Gyda gofid yr hysbyswn farwolaeth y cymeriad hoff ac anwyl Mr John Jones, Post Office, yr hyn a gymerodd le wedi cystudd byr yn nhy ei ferch, Mrs Robert Harris, Edge Hill, Pwllheli, ddydd Iau diweddaf, ac efe yn 82 mlwydd oed.

Yr oedd Mr Jones yn gymeriad a hoffid gan bawb yn yr ardal, yn ŵr caredig a chymdeithasol, ac yn barod i roi cymorth i'r dinodded. Chwith fydd i'r ardalyr ar ôl ei wen ddyrchafol, a'i fywyd gonest a phur.

Claddwyd ei weddillion ddydd LIun (angladd anghyhoedd) yn mynwent Llannor, Gwasanaethwyd gan y Parch. Thomas Williams, Pwllheli.

Cydymdemdir. yn ddwfn a'r teulu yn eu trallod a'u poen dirfawr.

Yr Udgorn 09/05/1917