MARWOLAETH.
Chwith yw genym wneuthur coffad am Mrs Margaret Jones, Post Office, yr hon a fu farw Mehefin 23am, yn nhŷ ei mherch Mrs Pheobe Roberts, Brook House, Rhuddlan, yn 73 mlwydd oed.Dygwyd ei gweddillion i fynwent Llannor, Mehefin 26ain. Y mae yn aros i alaru ar ei hol ei hanwyl briod Mr John Jones, yn ymyl cyraedd ei bedwar ugain mlwydd oed eu dau fab, Mr Richard Jones, Shop, Pentreuchaf, a Mr Evan Jones, Penyboncyn, Rhiw, a'u dwy ferch, Mrs Phoebe Roberts, Brook House, Rhuddlan, a Mrs Ellen Ann Harris, Edge Hill, Pwllheli.
Dioddefodd gystudd maith a blin yn dawel a dirwgnach iawn, yr oedd yn aelod ffyddlawn a dichlynaidd o Gapel Llannor, yn cael y gair o fod yn gymdoges hynaws a charedig, a bu yn gynorthwy i'w phriod i gadw y Llythyrdy am gyfnod maith— dros 30ain o flynyddoedd, yn gymeradwy gan bawb, a theimlir yn chwith heb ei gwen siriol a'i gair caredig.