YR YNADLYS.

Cynhaliwyd dydd Mercher, gerbron Mri Maurice Jones, C. H Lloyd Edwards, Lieut Col. Gough, William Thomas, Dr. Gwenogfryn Eyans, G. Cornelius Roberts, J G. Jones, a J. Hughes Parry.

TAFLU ALLAN.

Cyhuddwyd Robert John Owen, Llannor, o danio llawddryll ar y brif-ffordd.

Tystiodd Hugh Williams, Victoria House, Llannor, ei fod wedi clywed ergyd y tu allan i'r tŷ tuag un-ar-ddeg y nos. Daeth y diffynydd i guro yn y drws, a gwrthododd yntau ei agor. Aeth rhai o'r tŷ allan trwy ddrws y cefn, a llwyddasant i gymeryd y llawddryll oddiarno.

Dywedodd y Clerc fod y diffynydd wedi ei alw i'r mor, ac wedi anfon llythyr.

Gan na welodd neb mohono yn saethu yr ergyd daliai y Clerc nad oedd yr achos wedi ei brofi, ac awgrymai fod yr Arolygydd yn tynu y cyhuddiad yn ôl. Dywedodd yr Arolygydd na thynai y cyhuddiad yn ôl am fod yn rhaid iddo amddiffyn y cyhoedd.

Wedi trafodaeth taflwyd yr achos allan.

Yr Udgorn 20/06/1917


Ynadlys Pwllheli.

Cynhaliwyd dydd Mercher. Presenol Mr. C. H. Lloyd Edwards (yn y gadair), Dr. Gwenogfryn Evans, Dr. S. W. Griffith, Mri. G. Hughes Roberts a W. Thomas.

CARIO GWN HEB DRWYDDED.

Cyhuddwyd Robert John Owen, Britannia Terrace, Llannor, gan Mr. J. T. E. Jones, o gario gwn heb drwydded yn mis Mai.

Eglurai fod y diffynydd wedi myned i'r môr onide y buasai wedi ei erlyn yn gynt. Tystiai Mr. Evan Hughes, Efailnewydd, ei fod wedi gweled y diffynydd yn cario llawddryll, a'i fod wedi ei gymeryd oddiarno.

Y Cadeirydd : Mae llawer iawn yn cario y pethau yna heb drwydded.

Mr. Jones : Mae yn drosedd i wneud hyny. Nid oedd y diffynydd yn bresenol, a thaflwyd yr achos allan ar daliad y costau.

Yr Udgorn 07/11/1917