YNAD HEDDWCH NEWYDD.
Mae Mr. J. Hughes Parry, Penllwyn, wedi ei benodi ym Ustus Heddwch dros y sir.Mae Mr. Parry yn gwir deilyngu'r anrhydedd yma ar gyfrii y gwasanaeth cyhoeddus a gyflawnodd yn Neheubarth y Sir. Mae wedi bod yn aelod o Gyngor Dosbarth LIeyn a Bwrdd Gwarcheidwaid Pwllheli am 25 mlynedd. Bu'n cynrychioli plwyf Llanaelhaiarn am ran o'r adeg ac wedi hynny plwyi Llannor. Mae'n llanw cylch mawr o ddefnyddioldeb yn y sir. Mae yn aelod o Gyd-Bwyllgor Iechyd y Sir ers blynyddau, yn aelod o Fwrdd Llywodraethol Ysgol Ganolraddol Pwllheli, yn aelod o Bwyllgor Blwydd Dal y Milwyr yn y Sir.
Efe yw cadeirydd Pwyllgor Adeiladu'r Tai. Bu'n gweithredu fel cadeirydd Llys Apel Lleyn, ac efe yw'r unig un o aelodau'r llys hwnnw a ddaeth yn ôl i'r Cyngor yn yr etholiad diweddaf. Mae'n dra chynefin ag ym ladd brwydrau etholiadol a dod allan yn fuddugoliaethus. Mae hefyd yn gadeirydd Cyngor Plwyf Llannor ers naw mlynedd, ac yr oedd yn gadeirydd Cyngor Plwyf Llanaelhaiarn un mlynedd ddeg cyn hynny.
Mae'n gredwr mawr mewn addysg, ac y mae wedi dwyn ei blant i fyny drwy'r prif ysgolion.
Mae ganddo un mab (Dr. R. Hughes Parry) wedi cwblhau ei gwrs fel meddyg pan nad oedd ond 22 mlwydd oed.
Boed iddo oes faith i wasanaethu ei wlad.