LLWYDDIANT MEDDYGOL.

Da genym gael croniclo llwyddiant arbenig Mr Robert Hughes Parry, ail fab Mr a Mrs J. Hughes Parry, U. H., Penllwyn, yn enill y gradd o M. B., B. Sc., yn Mhrifysgol Llundain fel meddyg.

Nid yw ond 21 mlwydd oed, a bydd yn cwblhau ei gwrs terfynol yn mhen y flwyddyn.

Y mae Mr Parry wedi bod ar hyd y daith yn llwyddianus, ac y mae yn glod i'r ardal a'i magodd.

Yr Udgorn 02/08/1916