MARW GWR POBLOGAIDD.

Dydd Llun, Tachwedd 13eg, bu farw yr Amaethwr adnabyddus Mr. John Parry, Penllwyn, ac efe yn 82 mlwydd oed.

Yr oedd yn mlynyddoedd goreu oes yn un o Amaethwyr mwyaf cyfrifol y wlad, ac yr oedd yn adnabyddus fel cymydog a chyfaill pur i luaws yn Lleyn ac Eifion.

Cymerodd yr angladd anghyhoedd le ddydd Iau, yn mynwent Llannor. Gwasanaethwyd gan y Parch. Robert Roberts, wrth y tŷ a chan y Parch. Shepherd Jones, Rheithior yn y Fynwent.

Cydymdeimlir yn ddwys a'r teulu yn eu galar o golli un mor hoff ganddynt.

Yr Udgorn 22/11/1916