YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaiiwyd dydd Mercher gerbron Mri. Maurice Jones, Claud Lloyd Ejdwards, G. Hughes Roberts, Dr S. W. Griffiths, G. C. Roberts, W. W. Griffiths, J. Hughes Parry, William Thomas.

RHODDI DIOD I DDYN MEDDW.

Cyhuddwyd Mrs Charlotte Dobson, Farmers Arms, Efailnewydd, o roddi diod i ddyn meddw ac o ganiatau meddwdod yn y tŷ.

Ymddangosodd Mr William George ar ran yr heddlu a Mr Evan R. Davies ar ran y ddiffynydd.

Dywedodd Mr William George fod yr achos yn un poenus iawn ac yr oedd y trosedd honedig wedi arwain i ganlyniadau difrifol. Yr oeddynt oll yn awyddus i beidio a chyfeirio at yr amgylchiadau difrifol hyn, ond nid oedd reswm o gwbl i adael i'r troseddwr ddianc heb ei gosbi.

Yr oedd yr Arolygydd Owen wedi galw yn yr hotel ar Ebriil y 13eg, ac wedi eu cyhuddo o'r trosedd honedig. Yr oedd Miss Ollernshaw, chwaer y drwyddedwraig wedi cyfaddef fod y person dan sylw yn feddw ar nos Sadwrn Ebrill 8fed. Yr oedd y person hwnw wedi gofyn am wisci a rhoddodd hithau botelaid o gwrw iddo ac na yfodd ond ychydig bach ohono. Pan ofynwyd iddi ei rheswm dros roddi y ddiod atebodd nas gallai yn rhwydd beidio, gan ei fod y sawl ydoedd. Cadarnhawyd yr uchod gan yr Arolgydd Owen, yr hwn yn nghyd a'r Rhingyll Lloyd oedd wedi galw yno ar Ebrill 13eg.

Mewn atebiad i Mr E. R. Davies, atebodd yr Arolygydd ei fod yn gwybod fod dwy farn o berthynas i gyflwr y person yr honid ei fod wedi cael diod yno. Mewn ymchwiliad gerbron rheithwyr datganwyd dwy farn gref o berthynas i gyflwr y dyn y noson hono. Nid oedd wedi cael achos o gwbl i gwyno o'r blaen oherwydd fod dim allan o'i le yn nygiad yn mlaen y gwesty. Yr oedd y dyn wedi teithio ar fodur deurod am ffordd faith ar ôl bod yn y gwesty.

Dywedodd Mr E. R. Davies nad oedd am wadu y cyhuddiad yn wyneb yr addefiad a wnaed gan chwaer y drwyddwraig, ond yr oedd yn anffortunus iawn fod yr achos wedi ei ddwyn yn mlaen. Yr oedd yr amgylchiadau difrifol oedd yn gysylltiedig a'r achos yn dra hysbys i'r llys. Ac yr oedd y tystion yn yr ymchwiliad a gymerodd le yn gwahaniaethu yn eu barn o berthynas i gyflwr y person yr honid oedd yn feddw. Credai ef fod y ferch ieuanc, chwaer y drwyddedwraig wedi bod yn bur onest yn ei mynegiad wrth yr Arolygydd, ond gallasai ei bod wedi camddeall cyflwr y dyn a phan ystyrid fod y dyn yn wr o safle. Yr oedd wedi dangos ymddygiad teilwng wrth wrthod rhoddi wisci i'r dyn.

Ar ôl ymneillduo sylwodd y Cadeirydd fod yr achos yn un difrifol iawn o'r dechreu i'r diwedd, ond nis gallent beidio a dirwyo y ddiffynyddes.

Rhoddid ddirwy o 5s yn nghyd a costau y tystion a'r cyfreithiwr.

Yr Herald Gymraeg 09/05/1916