PRIODAS.
Ddydd Iau, yn Eglwys Warwick, priodwyd Mr John Coltart Naylor, The Priory, Winwick, a Miss Myfanwy Selina Ollerenshaw, merch Mr E. Ollerenshaw, gynt o'r Farmers Arms, Efailnewydd.Gwasanaethid gan y Parch. J. T Owen. Mr James Vernon oedd y gwas, a Miss May Ollerenshaw, Miss Grace Walton, a Miss Margaret Vernon oedd y rnorwynion. Rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei thad.
Ar ôl y wledd briodasol aeth y pâr dedwydd mewn modur i dreulio eu mis mêl yn yr Ysgotland. Yr oedd yr anrhegion priodusol yn lluosog a gwerthfawr.