MARW YN IEUANC.
Ddydd Sul, ar ol gwaeledd blin, bu farw Miss Mary Ollerenshaw, Recreation Road (merch y ddiweddar Mrs. Ollerenshaw,. Farmers Arms, Efailnewydd), a hi yn 23 mlwydd oed.Dioddefodd ei salwch yn hynod dawel ac ymostyngol. Geneth ieuanc brydferth a theg yr olwg ydoedd, a gwylaidd o natur. Gwnaeth lu o gyfeiilion, a bydd eu halaeth am dani yn ddwfn a hir.
Rhoir hi i orffwys yn mynwent y teulu yn Llannor. Cydymdeimlwn yn ddwys a'r teulu yn eu hiraeth am un mor dirion.