MARWOLAETH.

Nos Fercher diweddaf, wedi cystudd maith, a hi yn dair ar ddeg a thrigain oed, bu farw Mrs Ellen Jones, priod y diweddar Mr John Myfyr Jones, Pen y Gamfa, gynt.

Gedy o'i hôl ferch, yr hon ofalai am dani yn ei chystudd, a dau fab, y rhai sydd yn yr Amerig - un yn amaethwr llwyddianus yno ers tros ddeng mlynedd ar hugain.

Claddwyd ei gweddillion ym mynwent Llannor ddydd Sadwrn.

Yr Udgorn 26/05/1915