MARWOLAETH.

Oddeutu pedwar o'r gloch foreu lau bu farw Miss Annie Williams, merch Mr. a Mrs. W. Davies Williams, 20, Efailnewydd (Penybont), a hi yn 21ain mlwydd oed.

Dioddefodd gystudd maith yn dawel a dirwgnach. Bu am ysbaid mewn sanatorium yn ceisio adenill ei hiechyd, ond yn ofer. Geneth dawel a siriol oedd, a gair caredig iddi gan bawb. Cludwyd yr hyn oedd weddill ohoni i orphwys i fynwent Llannor dydd Llun.

Cydymdeimlir a'i rhieni trallodus yn eu galar o golli un mor anwyl.

Yr Udgorn 16/10/1918