MARWOLAETH
Ddydd Iau diweddaf, wedi cystudd maith a blin, bu farw Mrs Sydney Jones, Penbryn Terrace, priod y diweddar Mr John Jones, fu am flynyddau maith yn gwasanaethu gyda Mr J. G. Jones, Factory, Pwllheli, a hi yn 74 mlwydd oed.Rhoed hi i orffwys yn mynwent Llannor ddydd Llun angladd preifat, o dan y drefn newydd. Gwasanaethid gan y Parch R. Roberts, y gweinidog.
Gedy'r ymadawedig o'i hol amryw feibion a merched.