MYND O BLITH Y BYW.
Ddydd Iau diweddaf, dygodd angau ymaith un o gymeriadau disgleiriaf y fro, sef Mr Griffith Griffiths, Bryn Moelyn, ac efe yn 44 mlwydd oed.Dioddelodd gystudd maith a phoenus iawn yn hynod dawel a digwyno. Nid yn aml y breintir bro a gŵr o natur hynawsed a moes hawddgared ag efe.
Rhoed ei weddillion i orffwys yn mynwent Penrhos heddyw (ddydd Mawrth).
Yr Udgorn 01/04/1914
MARWOLAETH.
Dydd Iau bu farw un o gymeriadau disgleiriaf y fro, sef Mr Griffith Griffiths, Bryn Moelyn, ac efe yn 44 mlwydd oed.Dioddefodd gystudd maith a phoenus. Rhoed ei weddillion i orffwys ym mynwent Penrhos dydd Mawrth.