YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd ddydd Mercher, gerbron Mri J G. Jones. Maurice Jones, Wm. Thomas, G. Hughes Roberts, W. W. Griffiths, G. Cornelius Roberts. a J. Hughes Parry.

LLADRATA COED.

Cyhuddai yr Arolygydd Owen, Richard Humphreys, Efailnewydd o ladrata pren gwerth 2s 6d o goed Bodegroes.

Tystiai y Rhingyll Lloyd ei fod wedi gweled y diffynydd yn dod o'r coed gyda choeden ar ei ysgwydd. Dywedodd ei fod wedi cael caniatad i gymeryd y goeden gan y dynion oedd yn bwrw coed. Daeth un o'r dynion i'r lle, a dywedasant na roddwyd caniatad i neb fyned a'r coed ymaith.

Tystiodd Mr. George F. Yale mai eiddo Cyrnol Lloyd Evans, Broom Hall oedd y coed. Ni roddwyd caniatad i neb symud y coed ymaith, ond yr oedd Cyrnol Evans bob amser yn rhoddi caniatad i bobl gario coed tan o'r lle. Ond yr oeddynt yn myned yn hyfach na'r caniatad hwn ac yn myned i'r lle yn y nos i ladrata coed ac yn chwalu y cloddiau a dinystrio y fencing. Nid oedd Cyrnol Evans yn pwyso yr achos, ond yn unig dvmunai am iddo fod yn rhvbydd i eraill.

Dywedodd y diffynydd ei fod yn euog o fyned a'r coedyn o'r lle ac fod yr ardalwyr yn gyffredinol yn cario coed o'r lle yr un modd.

Bu i'r fainc rwymo y diffynydd drosodd yn y swm o 5p i iawn ymddwyn yn y dyfodol ac i dalu 15s o gostau.

Rhoddodd y Cadeirydd rybudd yr ymddygid yn llawer iawn llymach os deuai achos cyffelyb o'u blaenau.

Yr Herald Gymraeg 01/02/1916