DAMWAIN.

Cyfarfu Mr John Hughes, creigiwr yn Chwarel yr Imbill, a damwain dost iawn pan yn dilyn ei orchwyl yn y chwarel ddydd Sadwrn diweddaf.

Yr oedd yn parotoi ar gyfer tanio ergyd yn y graig, ac aeth yr ergyd allan cyn pryd.

Cafodd ei niwedio'n ddifrifol yn ei fraich ac aeth peth o'r pylor llosgedig i'w wyneb.

Dihangfa gyfyng iawn a gafodd am ei fywyd.
 

Yr Udgorn 13/08/1913