PRIODAS.
Ddydd Mercher, yr 16eg cyfisol, yng nghapel M. C. Webster Road, Lerpwl, gan y Parch William Owen, y gweinidog unwyd mewn glan briodas Mr R. Francis Williams, Glan-ffrwd, Efailnewydd â Miss Mary Davies, Rosslyn, o'r un lle (gynt o Woodcroft Road. Lerpwl).Gwasanaethwyd fel gwas gan Mr J. L. Davies, 44, Dovedale Road Mossley Hill, ac fel morwyn gan Miss Myfi Pritchard, Liscard. Rhoed y briodferch ymaith gan ei brawd-yn-nghyfraith, Mr J. R. Davies, 23, Kingsdale Road, Mossley Hill.
Yn wir Bob, rhyw haner byw - yw bodio
Yn y byd heb fenyw,
Gwae adfyd ni sidd gydfyw
A llanc, tra'i FEN wrth y llyw.
E.M.J.
Yr Udgorn 23/04/1913
BARDDONIAETH.
I'm cyfaill, Mr R. Francis Williams, ar ei uniad priodas â Miss Mary Davies o'r Efail Newydd.I "wr" Glan Ffrwd, a'i Fary, - wedi mynd
Mwy hoed pob tirioni;
O dêl cur, pur, heb oeri
Arhoed "ffrwd" cariad ffri.
Y ddinam awen ddenol, - adfywha
Yn dy fyd serchusol;
Mwy'n gytûn, ag un gôl
Barddoni "byw" arddunol.
CYBI
Yr Udgorn 30/04/1913
MARWOLAETH MR ROBERT FRANCIS WILLIAMS, ROSLYN.
"Arllwysa mor y bydEi berlau goreu i gyd
I borthladd bedd."
Gyda chalon drom a llygaid llaith yr ymgymerwn ag ysgrifenu ychydig linellau am y cyfaill ieuanc diymhongar, ond diweddar erbyn hyn, Mr R. Francis Williams, Roslyn, yr hyn a gymerodd le nos Wener diweddaf, ac efe yn 38 mlwydd oed. Parodd y newydd am ei farw sydyn don o dristwch i galon llu o'i gydnabod, gan ei fod yn anwylyn ieuengctyd gwlad a thref. Mae mwy neu lai o dristwch yn ein llanw wrth weled pob dyn ieuanc yn gorfod noswylio yn moreuddydd oes. Ond pan fyddo yr un hwnw yn llawnach na chyffredin o natur dda ac o ysbryd boneddigaidd, bydd ein tristwch yn fwy. Credaf nad gormodiaeth yw dweyd fod y cyfaill ymadawedig yn feddianol ar y pethau hyn i raddau helaeth.
Cafodd ei ddwyn i fyny fel argraffydd yn swyddfa'r "UDGORN," Pwllheli, a bu yno am dros bedair blynedd ar hugain yn fawr ei barch ac yn ffafryn ei gyd-weithwyr. Yr oedd yn un o'r dynion leuainc mwyaf dymunol ei gymdeithas, ac nid oedd dim yn ddigon i'w wahanu oddiwrth ei gyfeillion. Yr oedd yn toneddwr bob modfedd o hono, ac ni chafodd y gair anwybyddiaeth le i lechu yn nghyfrol fawr ei fywyd. Perthynai iddo ddynoliaeth fine a mawreddog, ac anfynych y cyfarfyddid ag un oedd yn meddu cymaint o addfedrwydd barn ar brif gwestiynau y dydd. Gellir dweyd am dano, fel y dywedodd Dewi Havesp am arall :-
"Ni thaenai dan rith wyneb,
Anghyfiawn air yn nghefn neb."
Gwir ei fod o dueddiadau enciliedig, ond profodd yr encilfeydd iddo ef yn fantais i ddwyn allan ac i ddatblygu ei gynheddau meddyliol cryfion. Wrth garu'r encilion daeth i bresenoldeb eneidiau mawr yn myd awen, llen a chan, ac etifeddodd o'u hysbryd. Yr oedd yn ddarllenwr wrth reddf, ac yn feddyliwr wrth natur. Ymgydnabyddodd â chlasuson yn llenyddiaeth Gymreig a Seisnig, a thrwy ymchwil barhaol daeth i feddu gwybodaeth gyffredinol ac eang. Gellid dweyd am dano ei fod yn berchen athrylith ddiamheuol, fel yr oedd yn un o'r cymeriadau mwyaf dyrchafol i fod yn ei gwmni. Pan yn ieuanc iawn daeth yn adnabyddus fel englynwr cywrain, a phroffwydid iddo ddyfodol can ddisgleiried a Threbor Mai, prif englynwr Cymru.
Cipiodd wobrwyon pwysig yn ei ddydd fel bardd a chyfieithydd, a gweodd gwpleidiau o englynion ag y gellid eu galw yn wir geinion y gynghanedd. Yr oedd hefyd yn ysgrifenwr rhyddiaeth perseiniol a llithrig, a'i arddull yn gain. Mae'n debyg fod rhai o'n darllenwyr yn barod i ofyn sut na buasai un a chymaint o dalenta ganddo wedi dyfod fwy i'r golwg ?
Dyma'r ateb. Cafodd gorph salach na chyffredin yn wisg am ei enaid mawr. Dioddefodd lawer yn ystod ei oes gan afiechyd, ond yr oedd fel yr eos yn gallu cann yn y nos-ynghanol nos afiechyd a phryder—ac eto mor siriol a rhosyn yr haf. Anhawdd ffarwelio ag ef yn haf ei ddydd, ond y mae ef erbyn hyn wedi cyrraedd "Gloewach nen," ac mewn gwlad fythol newydd ac îr.
Heddyw (dydd Mawrth) cymerodd ei angladd le yn mynwent Penrhos. Gwasanaethwyd wrth y tŷ ac yn y fynwent gan y Parch. Robert Roberts, y gweinidog. Cafodd gladdedigaeth barchus a lluosog. Yr ydym yn cydymdeimlo yn ddwys a'i weddw unig a thrallodus, ac a'i frawd a'i ddwy chwaer, a'r perthynasau oll eu galar o golli un mor hoff.— CYFAILL.
Ym Mehefin mae afar, — oherwydd
Marw un met hawddgar;
Deuodd hun a diwedd ar,
Ei bêr gan yn bur gynar. CENIN.
Yn swn cledd yr Armageddon—ein Bob
Aeth uwch y peryglon;
'Ei restrwyd (neb i'w rwystro) 'n
Wr iach yn Myddin yr Iôn.
Am fy mrawd, trwm yw fy mron—o hiraeth
Erys yn fy nghalon;
Ond 'e gyfyd adgofion
Dry y lleddf yn belydr llon. BRYNHELYG.