YNADLYS PWLLHELI.
Gerbron Mri. J. G. Jones, C. H. Lloyd Edwards. Maurice Jones, W. Thomas, C. H. Lloyd, Dr. W Wynne Griffith, Dr. R. Jones Evans, W. W. Griffiths.TROI TENANT O'I DŶ.
Gofynodd Mr Hugh Pritchard, ar ran Cyngor Gwledig Lleyn, am archeb i droi Owen Owens, Min Afon, Rhydyclafdy, o'i dŷ, gan fod y Cyngor wedi gwneyd archeb i'w gau ar Mawrth 15ed.Yr oedd y diffynydd wedi cael digonedd o amser i chwilio am dŷ arall, ond nid oedd wedi symud. Er tegwch â pherchenog y tŷ dylasai ddweyd nad oedd yn barod i adyweirio y tŷ am ei fod yn hen, ac nid oedd y diffynydd yn talu rhent am dano.
Dadleuodd y diffynydd fod ei wraig yn wael ac nas gallai gael tŷ arall. Hefyd, dywedodd mai ei deulu ef oedd wedi adeiladu y tŷ dan brydles.
Yn ateb i Mr Maurice Jones, dywedodd ei fod wedi cael diwrnod o waith fel nas gallai ymddangos o flaen Cyngor Lleyn pan oeddynt yn ystyried y mater.
Mr. Hugh Pritchard : Faint o rent sydd ddyledus arnoch?
Y Diffynydd : 5p.
Gwnaed archeb i'w gau o fewn 21 diwrnod.
Yr Herald Gymraeg 05/08/1915
Llys Ynadol Pwllheli.
Ddydd Mercher, Gorffenaf 28am.— O flaen J. G Jones, Ysw. (yn y gadair), C, H. Lloyd-Edwards, Ysw., Dr. R. Jones Evans, W. Thomas, Ysw., yr Henadur Maurice Jones, Dr. O. Wynne Griffith, C. H. Lloyd, Ysw, W. W. Griffith, Ysw., a J. Hughes Parry, J Ysw.Ty Anghymwys.
Gwnaed apel gan Mr. Hugh Pritchard, Clerc Cyngor Gwledig Lleyn, am archeb i orfodi Owen Owen, Minafon, Rhydyclafdy, ymadael o'i dŷ, yr hwn oedd wedi ei gondemnio fel yo anghynnvys i fyw ynddo.Rhybuddiwyd y diffynydd i ymadael ar Mawrth 15fed, ond nid oedd byth wedi mynd. Dywedai y diffynydd mai ei wraig oedd yn wael, ac nad oedd ganddi unman arall i fynd iddo. ac mai ei deulu oedd wedi adeiladu'r tŷ ar brydles.
Gwnaed archeb gan y Fainc am iddo ymadael o fewn pythefnos.