Llys y Man ddyledion Pwllheli. Ddydd Mercher, Hydref 1af.
O flaen y Barnwr William Evans.Hawlio Ychwanegiad mewn Iawndal.
Ymddangosai Mr Caradoc Rees (yn cael ei gyfarwyddo gan y Mri Lloyd George a George) ar ran Mr William Jones, Ty Isaf, Llannor, yr hwn fu yn brentis gôf gyda Mr Hugh Lunt, Pwllheli, a'r hwn a hawliai ychwanegiad yn yr iawndal dderbyniai o 8s. i 12s. Dywedodd Mr Rees i'r hawlydd, pan yn gweithio i'r diffynydd yn 1907 gael niwed i'w lygad. Caniatawyd iddo 5s. yr wythnos o iawn-dal, ac wedi hyny codwyd y swm i 8s. yr hyn gadarnhawyd gan y Llys.Yr oedd y diffynydd yn awr yn un ar hugain oed, ac yn hawlio ychwanegiad yn yr iawndal. Yr oedd Dr Jones-Evans, Abersoch, o'r farn nas gallai yr hawlydd wneud gwaith gôf, na gweithio mewn goleu disglaer. Yr oedd y llygad arall hefyd wedi cael effeithio arno trwy fod y llall wedi colli. Ategwyd tystiolaeth Dr Jones-Evans gan Dr Evans, Pont-y- Gribyn, a chan Dr Gladstone Jones, Criccieth. Dywedodd yr hawlydd y bu yn ceisio gweithio yn yr efail dair blynedd yn ôl, ond bu raid iddo roi'r gwaith i fyny. Yr oedd wedi ceisio gweithio fel llafurwr hefyd, ond yr oedd ei lygad yn dyfrio'n barhaus, a bu raid iddo roi'r gwaith hwnw i fyny hefyd.
Mewn atebiad i Mr Clement Davies, yr hwn ymddangosai ar ran y diffynydd (yn cael ei gyfarwyddo gan Mri Evan Jones a Davies, Caernarfon) dywedodd yr hawlydd nad oedd yn ffaith ei fod yn gwasanaethu yn y siop ac yn gyru cerbyd ar hyd y wlad. Tystiwyd gan Dr Evans, Caernarfon, iddo archwilio'r llygad y diwrnod hwnw, ac iddo fethu canfod unrhyw arwydd o wendid. Nid oedd y llygad yn dyfrio ond yr oedd tuedd i'w chau i osgoi goleu disglaer. Credai y gallai weithio mewn gefail er ei fod wedi colli un llygad. Tystiwyd i'r un perwyl gan Dr Mills Roberts, Llanberis. Dywedai Mr Clement Davies y credai y gallai y bachgen weithio, ac y byddai'n well iddo er ei fwyn ei hun pe bae'r iawn-dal yn cael ei atal.
Mr Caradoc Rees, drachefn, a ddywed fod y bachgen wedi rhoi cynyg ar bob math o waith, ac wedi methu. Os arhosai gartref dywedai Cwmni'r Yswiriant ei fod yn ddiog, ac os ceisiai wneud gwaith defnyddiol condemnid ef am hyny hefyd.
Gwrthododd y Barnwr ganiatau'r ychwanegiad.