LLYGOD, TYRCHOD, A GWNIHNGOD.

Llys Apel y Sir.

Cynhaliwyd yr uchod yn Mhwllheli ddydd Gwener, Mr. J. E. Greaves yn y gadair.

Gwnai Mr. Griffith Jones, Bodvel Hall, gais am esgusodiad i'w wâs.

Yr oedd y fferm yn 350 o aceri, o'r hon y troid 65 o aceri. Pan aeth ef i'r fferm chwe' blynedd yn ôl yr unig stoc â llewyrch arni oedd llygod, tyrchod, a gwnhingod. Yr oedd ganddo yn awr 14 o geffylau, 100 o wartheg, a 350 o ddefaid.

Dywedai Lifftenant Davies fod pawb yn gwybod fod Mr. Jones yn un o'r ffermwyr goreu yn y wlad, ond yr oedd saith o'r naw dyn oedd yn gweithio y fferm mewn oedran milwrol, a dylasai ryddhau un o honynt i'r fyddin.

Gwrthodwyd y cais.

Yr Udgorn 21/06/1916