Llys Ynadol Pwllheli.
Ddydd Mercher, Chwefror. 25ain o flaen Cyrnol Lloyd Evans (cadeirydd), yr Henaduriaid W Anthony, Maurice Jones, a G. Hughes Roberts; Dr S. W. Griffith. Claude Lloyd Edwards, Ysw., W. W. Griffith, Ysw, J. G. Jones, Ysw., a J. Hughes Parry, Ysw.Gwysid T. E. Jones, Plas Tudur, Llannor, gan David Roberts, Halfway, Abererch, am y swm o 5p. 8s. 6c., a chan Richard Williams, Garn View, Pwllheli, am 2p. 16s. 4c., sef cyflogau a honent oedd yn ddyledus iddynt. Ymddangosai Mr E. R. Davies tros yr achwynyddion a Mr Wm. George tros y diffynydd.
Dywedodd Mr Davies fod y ddau was wedi cyflogi gyda'r diffynydd yn Tachwedd, ond ar y 12fed o Chwefror ymadawsant o'r lle gan nad oeddynt yn foddlon ar y bwyd roddid iddynt. Talwyd 1p, 1s. 6c. i David Roberts a 1p. 12s. 8c i Richard Williams pan yr ymadawsant.
Dywedodd Mr. Wm. George ar ran y diffynydd fod yr achwynyddon wedi ymadael heb achos rhesymol, ac nas gallent hawlio cyflog. Yn ei dystiolaeth dywedai David Roberts iddo gyflogi y pentymor am 15p. Ymhen rhyw fis cafodd achos i gwyno oherwydd y bwyd. Yr oedd yn hollol anaddas i'w fwyta. Yr oedd yn ffaith y bu cweryl rhyngddo a'r forwyn y diwrnod cyn ymadael, ond nid hyny oedd y rheswn tros iddo fynd oddiyno, ac nid oedd wedi ymadael ar haner tymor o'r blaen. Nid oedd chwaith wedi dwyn blawd i'r ceffylau. Tystiwyd gan Richard Williams, y cyflogodd gyda'r diffynydd fel porthwr am 9p. Haerai yntau mai oherwydd y bwyd yr oeddynt wedi gadael y lle.
Dywedodd Mr W. George fod yr achwynyddion wedi ymadael oherwydd anghydfod rhyngynt a'r forwyn, ac nid oeddynt wedi cwyno oherwydd y bwyd o gwbl. Mewn gwirionedd, meddai, wedi blino ar y lle yr oeddynt, a chan eu bod yn gwybod nas gallent ymadael heb reswm gwnaethant esgus ynghylch y bwyd.
Tystiwyd gan T. E. Jones fod y gweision yn cael yn hollol yr un bwyd a'r teulu, ac nad oeddynt wedi cwyno yn ei gylch. Wrth ei groesholi dywedodd y tyst fod dau was wedi ymadael oddiyno ar haner y tymor o'r blaen, ond nid oherwydd y bwyd. Sylwodd Mr Davies ai oni wysiwyd ef o'r blaen gan was oedd wedi ymadael gan honi nad oedd y bara a gai yn addas i'w fwyta.
Dywedodd y diffynydd fod hyny bymtheng mlynedd yn ôl. Tystiwyd fod y bwyd yn hollol gymwys gan Mrs Jones, a'r mab a'r forwyn. Dywedai y forwyn fod y gweision yn canmol y bwyd yn hytrach na'i gondeninio.
Wedi ystyried y mater o'r neilldu hysbysodd y Fainc y dymunent i'r partion setlo gyda'u gilydd, ac os na allant y byddai i'r Fainc roi dyfarniad. Yn y diwedd hysbysodd y cyfreithwyr eu bod wedi dod i gytundeb, ac fod y cyhuddiadau yn cael eu tynu'n ôl.