MARW BLAENOR.
Ddydd Sadwrn diweddaf, wedi cystudd maith a blin, bu farw Mr. Griffith Evans, Ty Du.Ychydig ddyddiau'n flaenorol aed ag ef i'r Ysbyty i Lerpwl, gyda'r bwriad o'i roi dan weithred lawfeddygol, ond yr oedd yn rhy wan i ddal y driniaeth. Yr wythnos ddiweddaf deuwyd ag ef gartref, ac ar y ffordd cymerwyd ef yn wael iawn, a bu farw, fel y nodwyd.
Yr oedd yr ymadawedig tua 53 mlwydd oed, yn flaenor parchus gyda'r Methodistiaid yn Rhosfawr, ac yn ŵr cyfrifol ac adnabyddus iawn yn Lleyn ac Eifionydd.