PRIODAS.
Heddyw (ddydd Mawrth), yn nghapel Penmount (M C ), Pwllheli, gan y Parchn. W. Jones, M A., Fourcrosses, a Robert Jones, Rhosfawr, yn mhresenoldeb Mr Rhys T. Pritchard, y cofrestrydd, unwyd mewn glan briodas, Mr W J Parry, Tŷ'n Llanor, a Miss Mary E. Evans, Tŷ Du, Llannor.Gwasanaethwyd fel gŵas gan Mr Henry Parry, brawd y priodfab, ac fel morwynion gan Miss Maggie Evans, Ty Du (chwaer y briodferch), a Miss Lallie Evans, Bodelen, Pwllheli (cyfnither y briodferch).
Rhoed y briodferch ymaith gan ei brawd, Mr Walter Evans. Wedi mwynhau o'r brecwast briodasol blasus barotoisid yn y Gwalia Restaurant, gan Mrs Walis Thomas, ymadawodd y ddeuddyn am Lerpwl i dreulio eu mis mêl. Nawdd y nef fo dros yr uniad.
Daer fyddo ichwi'n hael;
Ar eich uniad doed tywyniad
Nefol oleu pur di-ffael.
Doeth y gwnaeth yr hynaws Parry
Ddewis merch mor hardd, mor gu;
Hawdd yw dweud "Lwc dda" wrth briodi
Mab Fronerch a merch Ty Du.
Wel. "Lwc Dda" o eigion calon
Dywedaf ar yr uniad hwn;
Ac os cwrddwch a helbulon
Da cael dau i gario'r pwn.
I wyneb heulwen ar eich llwybrau,
Nefol Dad i'ch arwain fydd,
A thrwy'r daith i gyd a'i rhwystrau
Deued nerth yn ôl y dydd.
CERIDWEN PERIS.