MARW HEN FILWR Y CRIMEA.
Fore Mawrth, bu farw George Morris Jones, Pentreuchaf. Yr oedd yn gweithio'r diwrnod cynt i Gyngor Dosbarth Lleyn. er yn 83 mlwydd oed.Bu'n gwasanaethu yn rhyfel y Crimea a chafodd ei glwyfo yn y rhyfel honno.
Brodor ydoedd o Drefnewydd, ac yn wehydd wrth ei alwedigaeth. Bu'n gweithio yn Ffatri Pwllheli am lawer o flynyddau. Yr oedd yn gymeriad caredig, unplyg, a gonest.
Gedy i alaru ar ei ôl weddw a nifer o blant.