ANGLADD MR EVAN JONES, EISTEDDFA.
Dydd Iau, ym mynwent y plwyf, claddwyd y diweddar Mr Evan Jones, Eisteddfa (angladd preifat). Gwasanaethwyd cyn cychwyn yn y tŷ gan y Parcn John Evans, B.A., Gwen Lleyn, ac yn yr eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch Sheppard Jones, rheithor.Y galarwyr oeddynt Mrs. Jones (priod), Mrs Jones, Llithfaen (chwaer yng- nghyZraith), Mr Thomas Jones, Rhuthyn (nai), a Mr William Roberts, Ty'n Llwyn (cefnder). Yr oedd hefyd yn bresenol Mri Hugh Jones, Penybryn; Richard Williams, Rhosydd; Griffith Williams, Terfyn; Owen Davies, Efailnewydd, a William Roberts, Hendre Bach.